Mae Archesgob Cymru, John Davies, wedi gofyn i bobol beidio digalonni yn ystod y cyfnod clo dros dro.

Dywedodd y bydd y cyfnod clo’n effeithio ar fywydau pawb, yn enwedig y rhai sydd newydd ddechrau dod allan o’r cyfnod clo diwethaf.

Fodd bynnag, mae’n annog pobl i fod yn amyneddgar ac i barchu’r cyngor sy’n cael ei roi gan Lywodraeth Cymru.

“Mae’r cyfnod clo yn mynd i effeithio ar fywydau pob un ohonom. Fel cymuned eglwys, yr ydym wrth gwrs yn siomedig oherwydd mae’n golygu y bydd adeiladau ein heglwysi ar gau am dri dydd Sul,” meddai.

“Felly, os ydych chi’n siomedig, rwy’n deall. Ond peidiwch â digalonni. Cofiwch fod yn amyneddgar.

“Dim ond pythefnos sydd, felly ceisiwch eich gorau glas i barchu’r hyn y gofynnir i chi ei wneud.”

Annog pobol i weddïo

Mae’r Archesgob yn annog pobol i weddïo dros y rhai o’u cwmpas, yn enwedig os yw’r pandemig yn cael effaith ar eu bywoliaeth neu’n debygol o effeithio’u hiechyd meddwl.

Galwodd hefyd ar bobol i weddïo dros y rheini sy’n gorfod darparu cyngor a gwneud penderfyniadau.

“Ceisiwch gofio eu bod yn gwneud hynny i gyd i geisio cynnal, hyd y gallant, ein ffordd o fyw. Ac maen nhw’n gwneud eu gorau i geisio bod o fudd i bob un ohonom yn y cyfnod anodd hwn.”