Mae’r gwaith adfer ar fur ‘Cofiwch Dryweryn’ wedi cael ei gwblhau.

Mae’r wal yn sefyll ger ffordd yr A487 rhwng Llanrhystud ac Aberystwyth, ac mae’r geiriau arni yn cyfeirio at foddi Capel Celyn, Cwm Tryweryn.

Neithiwr (nos Iau, Hydref 22) bu’r arlunydd Ruth Jên Evans, a gafodd ei geni yn Aberystwyth, yn peintio’r wal yng ngolau car, mewn adlais o’r weithred wreiddiol o baentio’r slogan.

Cafodd cynlluniau i ailadeiladu ac ailbeintio’r mur eu cytuno ym mis Mawrth, gydag arbenigwr yn y maes cadwraeth adeiladu, Nathan Goss o Aberystwyth, yn cael ei benodi i reoli’r cynllun i ddiogelu’r wal.

Daeth hyn yn sgil ymgyrch ryngwladol y llynedd ar ôl i’r mur gael ei ddifetha ar ddau achlysur gwahanol.

Cafodd y wal ei gwerthu i Dilys Davies ym mis Gorffennaf y llynedd, sydd wedi dweud y bydd y wal yn “saff am byth.”