Mae wal Cofiwch Dryweryn yng Ngheredigion wedi’i gwerthu i berchennog newydd, gyda’r bwriad o’i gwarchod.
Daw’r newydd ar ôl ymgyrch ryngwladol yn gynharach eleni ar ôl i’r neges ‘Cofiwch Dryweryn’ ar y wal bron a chael ei difetha ar ddau achlysur gwahanol.
Fe fydd rhaglen ar S4C yr wythnos hon yn datgelu bod y wal wedi’i gwerthu i Dilys Davies.
“Roeddwn i, ynghyd â llawer o bobl eraill, wedi fy mrifo pan ddifrodwyd wal Cofiwch Dryweryn ddwywaith yn gynharach eleni. Arweiniodd hyn i mi feddwl am beth y gallwn i ei wneud. Yn sicr, ni allwn redeg i fyny i Lanrhystud yn hwyr yn y nos, dringo dros ffensys ac ail-baentio’r wal, felly cysylltais gydag Elin Jones [Aelod Cynulliad dros Geredigion, a Llywydd y Cynulliad] i ofyn sut y gallwn i helpu,” meddai Dilys Davies, perchennog newydd y wal.
O fewn ychydig ddyddiau i Dilys Davies gysylltu gyda’r Aelod Cynulliad roedd perchnogion blaenorol y wal hefyd wedi cysylltu gydag Elin Jones yn datgan eu diddordeb i werthu’r tir lle mae’r wal yn sefyll er mwyn ei diogelu.
“Sbarduno”
Meddai Elin Jones: “Drwy ryfedd gyd-ddigwyddiad mi ges negeseuon wrth y ffermwr oedd berchen y wal a Dilys oedd eisiau prynu’r wal o fewn ychydig ddyddiau i’w gilydd. Mi drefnais i bawb ohonom gwrdd o flaen wal Tryweryn, ac o fewn 10 muned roedd y ffermwr a Dilys wedi cytuno ar bris.
“Mae fy niolch yn fawr i’r ffermwyr a ofalodd am y wal am hanner can mlynedd cyn ei throsglwyddo i Dilys Davies a fydd nawr yn ei diogelu a’i dehongli i’r dyfodol. Neges yw wal Tryweryn i’n sbarduno i fynnu parch a rhyddid i’n gwlad.”
“Dyfodol cadarn”
Er mai Dilys Davies sydd wedi prynu’r wal, mae’n esbonio mai elusen fydd yn ei gwarchod.
“Bydd y wal yn cael ei throsglwyddo i elusen Tro’r Trai, elusen sy’n hyrwyddo ein hiaith a’n diwylliant Cymreig. Golygai hyn y bydd dyfodol cadarn a diogel i’r wal, a bydd y gofeb yn hollol saff am byth o fewn yr elusen.
“O ran dyfodol y wal, ‘wi ddim moyn gwneud y penderfyniad yn bersonol, gan fod sawl ffordd o’i warchod. Gallwch ddodi ffens rownd e, ond ar y llaw arall, mae rhywbeth yn neis am biti street art, a bod e’n cael ei ail wneud ar ôl i [Meic Stephens] wneud yr un gwreiddiol. Hoffwn feddwl, er fy mod i wedi prynu’r wal, y bydd pob un ohonom yn berchen arni.”
“Rhan bwysig o’n hanes”
Cafodd y neges ei phaentio’n wreiddiol yn y 1960au gan y cenedlaetholwr ifanc, Meic Stephens, a oedd yn benderfynol na fyddai pobl Cymru yn anghofio penderfyniad llywodraeth y Deyrnas Gyfunol i foddi pentref Capel Celyn ger Y Bala ym 1965 i greu cronfa ddŵr ar gyfer Cyngor Dinas Lerpwl.
Yn y rhaglen Huw Stephens: Cofiwch Dryweryn, mab Meic Stephens, y cyflwynydd a’r DJ Huw Stephens, sy’n holi pam fod murlun ‘Cofiwch Dryweryn’ wedi tanio dychymyg cenhedlaeth newydd o Gymry sydd am warchod ein hanes.
“Mae wal Cofiwch Dryweryn yn rhan bwysig o’n hanes ni, ac i bawb yng Nghymru. Rydyn ni fel teulu yn falch iawn fod y wal yn cael ei rhoi i ddwylo elusen – diolch i Dilys – i’w warchod, fel bod yr hyn ddigwyddodd yn Nhryweryn ddim yn cael ei anghofio.”
Huw Stephens: Cofiwch Dryweryn, S4C, nos Iau, Awst 8
Bydd digwyddiad arbennig ar stondin S4C yn yr Eisteddfod Genedlaethol am 1.30 brynhawn dydd Mercher (Awst 7) yn trafod Cofiwch Dryweryn gyda Huw Stephens.