Mae swyddogion yr Eisteddfod wedi apelio ar bobl i beidio â gyrru drwy Betws-y-Coed er mwyn cyrraedd Maes y Brifwyl yn ardal Llanrwst.

Mae teithwyr o ardaloedd yn y Gogledd Orllewin yn cael eu cynghori i ddefnyddio’r A55 ac wedyn i droi am Lanrwst ger Cyffordd Llandudno (19), neu i fynd ar yr A470 drwy Blaenau Ffestiniog a Dolwyddelan.

Mae oedi wedi bod ar yr A5 i’r ddau gyfeiriad dros y dyddiau diwethaf o ganlyniad i’r niferoedd sy’n gyrru drwy Betws-y-Coed.

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi dweud y bydd yn cymryd llai o amser i bobl gyrraedd Llanrwst o ardaloedd gorllewinol os ydyn nhw’n osgoi canol Betws-y-Coed.

Nid “wythnos arferol”

Meddai Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod: “Ry’n ni’n deall beth mae pobl yn ei wneud – maen nhw’n defnyddio’r llwybrau arferol i gyrraedd Llanrwst, ond dydi’r wythnos hon ddim yn wythnos arferol. Ry’n ni’n apelio ar yrwyr i beidio â theithio drwy Fetws y Coed, ac i ddilyn y prif lwybrau o gyfeiriad Llandudno ac o gyfeiriad Blaenau Ffestiniog.

“Mae’r traffig yn llifo’n dda i mewn ac allan o’n meysydd parcio. Fodd bynnag mae’n ymddangos bod y niferoedd sy’n dod drwy Betws-y-coed yn achosi oedi o ran cyrraedd rhai meysydd parcio. Rydym yn sicrhau i ymwelwyr ei bod hi’n hwylus iawn i gael mynediad i’r maes ar ein bysiau gwennol o bob maes parcio.”