Bu Joe Biden a’r Arlywydd Donald Trump yn dadlau am yr ail dro, a’r tro diwethaf, neithiwr – cafodd dadl arall ei chanslo pan gafodd Donald Trump y coronafeirws.

I Mr Trump, efallai mai’r ddadl ym Mhrifysgol Belmont Tennessee oedd y cyfle olaf i newid cwrs ras sydd wedi ei dominyddu, i raddau helaeth, gan ei ymateb i’r pandemig a’r helynt economaidd.

I Mr Biden, roedd yn 90 munud i ategu ei fantais ymddangosiadol, a hynny lai na phythefnos cyn yr etholiad.

Dyma adegau allweddol o’r ddadl…

Trump wedi tawelu ychydig?

Donald Trump wrth ddarllenfa
Donald Trump

Dair wythnos ar ôl cael ei feirniadu gan y ddwy blaid am dorri ar draws ei gystadleuydd Democrataidd dro ar ôl tro, mabwysiadodd Mr Trump naws… dawelach… ar gyfer llawer o’r ddadl hon.

Gofynnodd i Kristen Welker, a oedd yn cymedroli’r ddadl, am y cyfle i ymateb i atebion Mr Biden – “Os ga’i?” – yn hytrach na jyst neidio i mewn, a diolchodd i Ms Welker dro ar ôl tro hefyd.

O’r cwestiwn cyntaf, roedd y ddadl hon yn wahanol i’r gyntaf, pan wnaeth ymyriadau di-baid Mr Trump, a’r ffaith ei fod yn anwybyddu’r cyfyngiadau amser, droi’r holl beth yn smonach, braidd.

Fodd bynnag, roedd ergydion o hyd.

“Allwn ni ddim cloi ein hunain mewn seler fel Joe,” meddai Mr Trump, gan ailadrodd ei ymosodiadau o’r gwanwyn a’r haf ar Mr Biden am aros yn ei gartref oherwydd y pandemig yn hytrach nag ymgyrchu’n bersonol.

Chwerthin ac ysgwyd ei ben wnaeth Mr Biden. Gwnaeth hwyl am ben Mr Trump am awgrymu unwaith fod bleach yn helpu i ladd y coronafeirws.

Cafodd y ddau ddyn ddadl hir am eu cyllid personol a’u busnes teuluol.

Ond ar y cyfan, cafodd pleidleiswyr rywbeth na wnaethant ei gael ar 29 Medi: dadl o ryw fath.

Ymosodiadau personol anuniongyrchol gan Trump

Gyda’r nod o newid cwrs y ras, dychwelodd Mr Trump i’r dacteg a enillodd, yn ei farn ef, yr Oval Office iddo bedair blynedd yn ôl — ymosodiadau personol cyflym dro ar ôl tro ar ei wrthwynebydd.

Sawl gwaith, gwnaeth Mr Trump honiadau heb dystiolaeth yn erbyn Mr Biden a’i fab Hunter mewn ymgais i bortreadu ei gystadleuydd a’i deulu fel pobl llwgr.

“Dydw i ddim yn gwneud arian o Tsieina, rydych chi’n gwneud hynny. Dydw i ddim yn gwneud arian o’r Wcráin, rydych chi’n gwneud hynny,” meddai Mr Trump.

Ni chynigiodd Mr Trump unrhyw dystiolaeth galed o’i honiadau, ac mae ganddo hanes o wneud honiadau nad ydynt yn wir, wrth gwrs.

Pan geisiodd y Democrat newid y pwnc o ymosodiadau’r llywydd ar ei deulu i faterion eraill, dywedodd Mr Trump fod Mr Biden yn “wleidydd nodweddiadol”, gan ychwanegu, “Der ’mlaen, Joe, galli di wneud yn well. ”

Roedd y ddau ymgeisydd yn ei chael hi’n anodd egluro pam nad oeddent wedi gallu cyflawni mwy tra’u bod yn eu swyddi – defnyddiodd y ddau y dacteg gyfarwydd o feio’r Gyngres am ei diffyg gweithredu.

Dynion gwyn a hil

Mae llawer wedi dadlau ei bod yn drueni gweld dynion gwyn 74 oed a 77 yn brwydro am y Tŷ Gwyn mewn cyfnod o densiwn oherwydd hiliaeth. Ychydig a wnaeth Mr Trump a Mr Biden i chwalu’r ddadl honno.

Cynigiodd Ms Welker sawl cyfle iddynt siarad yn uniongyrchol ag americaniaid du. Dywedodd y ddau ddyn eu bod yn deall yr heriau y mae dinasyddion du yn eu hwynebu, ond troiodd y rhan honno hefyd yn ymosodiadau ar ei gilydd.

Rhoddodd Mr Trump y bai i gyd ar Mr Biden am garcharu torfol, yn enwedig “dynion du ifanc”. Am ei hun, dywedodd Mr Trump mai ef oedd “y person lleiaf hiliol yn yr ystafell hon” ac ailadroddodd ei honiad “nad oes neb wedi gwneud yr hyn rwyf i wedi’i wneud ar gyfer Americaniaid du… ac eithrio Abraham Lincoln… eithriad posibl”.

Yn gegrwth, dywedodd Mr Biden fod Mr Trump yn “hiliol” ac yn “arllwys tanwydd ar bob un tân hiliol.”

Covid-19

Mae anhawster Mr Trump wrth amddiffyn ei ymdriniaeth o argyfwng y coronafeirws yn llethu ei ymgyrch.

Pan ofynnwyd iddo amlinellu ei gynllun ar gyfer y dyfodol, haerodd Mr Trump, yn lle hynny, fod ei ymdriniaeth flaenorol o’r sefyllfa yn ddi-fai.

“Rydyn ni’n troi, rydyn ni’n troi’r gornel,” honnodd Mr Trump, hyd yn oed wrth i achosion gynyddu eto ledled y wlad… “Mae’n mynd i ffwrdd.”

Roedd Mr Biden, sydd wedi ceisio pwysleisio’r mater gerbron pleidleiswyr, yn barod amdano: “Ni ddylai unrhyw un sy’n gyfrifol am gymaint o farwolaethau aros fel Arlywydd Unol Daleithiau America,” meddai.

Ychwanegodd Mr Biden: “Mae’n dweud ein bod ni’n dysgu byw gydag e [y feirws]… ond dysgu marw gydag e mae pobol.”

Trump yn ymosod ar Obamacare

Ceisiodd Mr Trump a Mr Biden leoli eu hunain fel amddiffynnydd gofal iechyd America, yn ymwybodol iawn ei fod ymhlith y materion pwysicaf i bleidleiswyr, a hynny hyd yn oed cyn i’r pandemig daro.

Ond roedd ymdrechion Mr Trump i ddiddymu a thanseilio Deddf Gofal Fforddiadwy Cyfnod Obama yn wendid yn y ddadl, wrth i Mr Biden ymosod ar ei ymdrechion i dynnu degau o filiynau o Americanwyr oddi ar y cynllun iechyd – a’i gyhuddo o beidio â chael cynllun ar gyfer pobl â chyflyrau sy’n bodoli eisoes.

Yr Hinsawdd

Aeth Mr Trump a Mr Biden ben-ben ar newid byd-eang yn yr hinsawdd – y drafodaeth helaeth gyntaf ar y mater mewn dadl arlywyddol mewn 20 mlynedd.

Dywedodd Mr Biden ei bod yn bryd i’r byd fynd i’r afael â hinsawdd sy’n cynhesu, wrth i Mr Trump gymryd y clod am dynnu’r Unol Daleithiau allan o gytundeb rhyngwladol mawr i wneud yn union hynny. Haerodd Mr Trump ei fod yn ceisio achub swyddi Americanaidd, a cheisiodd gymryd clod am aer a dŵr glan – er bod rhywfaint o hynny o ganlyniad i reoliadau a basiwyd gan ei ragflaenydd.

Galwodd Mr Biden, wrth drafod mater sy’n arbennig o bwysig i’w gefnogwyr, am fuddsoddiad enfawr i greu diwydiannau ecogyfeillgar newydd. “Mae ein hiechyd a’n swyddi yn y fantol,” meddai.

Siaradodd Mr Biden hefyd am symud oddi wrth y diwydiant olew – neidiodd Mr Trump ar hynny, gan ofyn i bleidleiswyr yn Texas a Pennsylvania a oeddent yn gwrando.

Polisi tramor

Cafodd Mr Biden gyfle o’r diwedd i siarad ychydig am bolisi tramor – ond dim ond am ychydig. Roedd y cyn Is-lywydd wrth ei fodd â’r pwnc ym misoedd cyntaf ei ymgyrch, ond mae’r etholiad cyffredinol wedi’i ddominyddu gan y pandemig ac argyfyngau cenedlaethol eraill.

Defnyddiodd Biden y pwnc i ymosod ar berthynas gysurus Mr Trump ag arweinydd awdurdodol Gogledd Korea, Kim Jong Un. “Ei fêt, sy’n llabwst,” meddai Mr Biden, gan ddadlau bod uwchgynhadledd Mr Trump gyda Mr Kim wedi “dilysu” gwrthwynebydd peryglus, a bygythiad niwclear posibl.

Amddiffynnodd Mr Trump ei “wahanol fath o berthynas… perthynas dda iawn” â Mr Kim, a dywedodd Mr Biden fod gan wledydd “berthynas dda â Hitler cyn iddo ymosod ar weddill Ewrop”.

Felly, er bod y ddadl hon yn well na’r un gyntaf – nid oedd wir yn ymchwiliad dwfn i faterion cymhleth, ‘chwaith.