Mae rhan o wal Cofiwch Dryweryn ger Llanrhystud wedi cael ei chwalu.
Ar ôl sawl enghraifft o fandaleiddio ac ail-baentio tros yr wythnosau diwetha’, mae rhan ucha’r wwal bellach wedi ei chwalu’n llwyr.
Fe gafodd ei phaentio gynta’ yn y 60au gan y bardd a’r awdur, Meic Stephens, ar ôl boddi pentre’ Capel Celyn ac mae wedi dod yn nodwedd adnabyddus iawn ar y ffordd fawr rhwng Aberystwyth ac Aberaeron.
Ynghynt yr wythnos hon, roedd rhywun wedi amharu ar y graffiti ond roedd wedi ei hailbaentio ar unwaith.
Ynghynt eleni, roedd rhywrai wedi paenti enw Elvis tros y geiriau gwreiddiol ond fe gafodd ‘Cofiwch Dryweryn’ ei adfer y tro hwnnw hefyd.
Ar wahanol adegau, mae yngyrchwyr wedi galw am roi statws rhestredig i’r wal er mwyn ei gwarchod.