Oriau yn unig ar ôl cael ei fandaleiddio, mae mur eiconig ‘Cofiwch Dryweryn’ bellach wedi cael ei adfer.

Mae’r wal yn sefyll ger ffordd yr A487 rhwng Llanrhystud ac Aberystwyth, ac mae’r geiriau arni yn cyfeirio at foddi Capel Celyn, Cwm Tryweryn.

Cafodd y pentref ei foddi yn 1965 er mwyn creu cronfa ddŵr i gyflenwi Lerpwl.

Ar fore dydd Gwener (Ebrill 12) daeth i’r amlwg bod ‘AGARI’ wedi cael ei sgrifennu dros y mur – dyw ystyr yr ysgrif ddim yn glir.

Ond bellach, mae pump o bobol ifanc wedi adfer y wal i’w ffurf wreiddiol.

“Dyletswydd”

Un o’r pump yw Elfed Wyn Jones o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg.

Mae’n dweud bod y gwaith paentio wedi cymryd llai na 20 munud, a’i fod wedi gwneud y gwaith – ynghyd â’r gweddill – yn ystod ei awr ginio.

Roedd ymhlith grŵp o bobol a wnaeth adfer y wal pan gafodd ei fandaleiddio ym mis Chwefror, ac mae’n addo gwneud hynny eto os bydd rhaid.

“Dw i’n teimlo bod gyda ni ddyletswydd i wneud [hyn dro ar ôl dro],” meddai wrth golwg360. “Mae’n neis atgyweirio’r wal. Ond mae’n drist ein bod ni’n gorfod gwneud hyn o hyd.”