Mae cyn-weithiwr amddiffyn wedi’i garcharu am bedair blynedd a hanner am ddatgelu manylion “niweidiol” a chyfrinachol am system daflegrau’r Deyrnas Unedig.

Clywodd llys yr Old Bailey y gallai Simon Finch, 50, fod wedi peryglu bywydau aelodau’r lluoedd arfog pe bai gelynion wedi cael gafael ar y wybodaeth.

Plediodd yn euog i gofnodi a datgelu cudd-wybodaeth yn groes i’r Ddeddf Cyfrinachau Swyddogol.

Fe gyfaddefodd hefyd iddo fethu â rhoi codau mynediad i’r awdurdodau i dair dyfais electroneg.

Dywedodd y barnwr fod y drosedd yn un “ddifrifol” a pheryglus oedd wedi cael ei “chynllunio’n ofalus a bwriadol”, a’i fod e wedi casglu’r holl wybodaeth ynghyd mewn llyfrgell yn Abertawe ac wedi e-bostio’r cyfan o westy yn Frankfurt yn yr Almaen.

Mae hefyd bellach yn destun gorchymyn am bum mlynedd fydd yn ei atal rhag datgelu rhagor o gudd-wybodaeth o’i gof “ffotograffig”.

Cefndir

Clywodd y llys ei fod e wedi dioddef ymosodiadau homoffobig yn 2013 a bod ei fywyd ar chwâl ers hynny.

Fe ddechreuodd e gario arfau i’w “amddiffyn ei hun” wrth fynd allan yng Nglannau Mersi.

Yn 2016, cafodd ei asesu gan seiciatryddion cyn cael dedfryd ohiriedig am fod â morthwyl a machete mewn lle cyhoeddus.

Yn 2018, anfonodd e e-bost yn cynnwys cudd-wybodaeth at wyth o bobol, gan honni iddo ei rhannu gyda gwledydd tramor “gelyniaethus”.

Dywedodd wrth y llys ei fod yn teimlo bod “rhaid gwneud rhywbeth i gael sylw cenedlaethol” a bod rhaid gwneud rhywbeth “eithaf difrifol”.

Clywodd y llys fod ganddo fe dueddiadau awtistig, ac fe wadodd iddo rannu’r wybodaeth ar y dechrau.

Gwaith

Fe fu’n gweithio i BAE Systems a QinetiQ, sy’n cynnig gwasanaethau i’r Weinyddiaeth Amddiffyn, ac fe fu’n gweithio i’r Weinyddiaeth am gyfnod hefyd.

Gadawodd BAE System yn 2018 a symud i Abertawe cyn dechrau anfon y negeseuon fis Hydref y flwyddyn honno.

Dywedodd ei gyfreithiwr ei fod e “wedi cyrraedd pen ei dennyn” ynghylch y ffordd roedd yr heddlu wedi ei drin yn y gorffennol.

Cafodd peth o’r achos ei gynnal y tu ôl i ddrysau caëedig er mwyn diogelu gwybodaeth a gafodd ei datgelu yn ystod y gwrandawiad.

Cafodd y rheithgor rybudd i beidio â datgelu’r wybodaeth yn gyhoeddus.