Mae undebau yn galw am eglurder yn dilyn y cyhoeddiad gan yr Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams, na fydd arholiadau TGAU a Safon Uwch yn cael eu cynnal y flwyddyn nesaf.
Cafodd yr undebau a chyrff addysgu wybod am y penderfyniad mewn cyfarfod fore heddiw (dydd Mawrth, Tachwedd 10), awr yn unig cyn y cyhoeddiad swyddogol.
Er bod y mwyafrif o undebau yn croesawu bod angen trefn wahanol eleni, mae rhai yn siomedig na fu ymgynghoriad pellach cyn dod i benderfyniad.
NAHT Cymru
Mae Ruth Davies, llywydd undeb arweinwyr ysgolion NAHT Cymru, yn dweud bod y drefn newydd yn ei phryderu.
“Rydym yn croesawu bod angen i bethau fod yn wahanol yn 2021, ond mae pryder gwirioneddol y bydd arholiadau yn cael eu cynnal yn y pen draw,” meddai.
“Cyhoeddwyd heddiw y bydd disgyblion yn dal i gael profion yn yr ystafell ddosbarth sydd wedi’u gosod a’u marcio yn allanol. Arholiad yw hynny.
“Mae llawer o fanylion eto i’w penderfynu ac rydym yn aros am eglurhad pellach.”
Ychwanegodd fod NAHT Cymru yn pryderu y gallai cynnal profion allanol yng nghyfnod Covid-19 arwain at ddisgyblion yn cael eu hasesu ar sail gwaith sydd heb gael ei ddysgu iddyn nhw gan nad oedd modd iddyn nhw fynd i’r ysgol.
‘Mwy o gwestiynau nag atebion’
Yn ôl Nicola Savage, arweinydd addysg Gymraeg undeb GMB, mae’r cyhoeddiad yn “arwain at fwy o gwestiynau nag o atebion”.
“Ar hyn o bryd bydd llawer o athrawon a myfyrwyr mewn sioc ac yn ansicr ynghylch beth mae’r cyhoeddiad heddiw yn ei olygu iddynt,” meddai.
“Mae’n siomedig bod y Gweinidog wedi penderfynu gwneud y penderfyniad hwn heb ymgynghori priodol â rhanddeiliaid gan gynnwys undebau llafur.
“Mae GMB yn disgwyl bydd manylion pellach ar gael cyn gynted â phosibl, ac rydym yn annog y gweinidog i gysylltu â phob parti er mwyn cyd weithio a thawelu meddwl staff addysg a myfyrwyr.”
Cafodd yr un neges ei hategu gan Neil Butler, swyddog cenedlaethol NASUWT Cymru.
“Unwaith eto, maen nhw [Llywodraeth Cymru] wedi colli cyfle i siarad â’r bobol go iawn sy’n gorfod gwneud y gwaith,” meddai.
“Mae’n debyg mai cydweithio i Lywodraeth Cymru yw siarad ag arweinwyr ysgolion a cholegau yn unig, ond y bobol sy’n mynd i orfod rhoi hyn ar waith yw’r athrawon dosbarth mewn ysgolion.”
Daeth y Gweinidog Addysg i benderfyniad ar ôl i Gymwysterau Cymru ac adolygiad annibynnol a gafodd ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru argymell na ddylai myfyrwyr sefyll arholiadau’r flwyddyn nesaf.
Fe fu beirniadaeth o’r modd y cafodd yr arholiadau eleni eu canslo oherwydd y coronafeirws, a bu rhaid i asesiadau athrawon ddisodli system graddau dadleuol.
‘Rhyddhad o’r mwyaf i ysgolion’
Er bod UCAC hefyd yn galw am eglurder er mwyn caniatáu i ysgolion roi “trefniadau priodol yn eu lle”, mae’r undeb yn ffyddiog y bydd y cyhoeddiad yn cynnig rhyddhad i ysgolion.
“Bydd y cyhoeddiad hwn yn rhyddhad o’r mwyaf i ysgolion ledled Cymru,” meddai Rebecca Williams, Is-ysgrifennydd Cyffredinol a Swyddog Polisi UCAC.
“Rydym yn cytuno gyda’r Gweinidog mai dyma’r opsiwn gorau o safbwynt sicrhau lles a thegwch ar draws y system mewn blwyddyn ble mae tarfu ar addysg disgyblion yn anorfod.
“Nid oes modd amgyffred cynnal arholiadau allanol mewn modd sy’n rhoi tegwch i ddisgyblion dan yr amgylchiadau presennol ac nid oes unrhyw sicrwydd y bydd yr amodau’n caniatáu hynny yn yr haf.
“Mae’r penderfyniad hwn yn golygu y bydd trefniadau amgen yn eu lle ac na fydd angen gwneud newidiadau disymwth, funud olaf, ac mae hynny i’w groesawu’n fawr iawn.”
Ychwanegodd fod “llawer o waith i’w wneud” a bod grŵp wedi’i sefydlu i bennu manylder y trefniadau.
Mae Cymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau Cymru ac Undeb Addysg Cenedlaethol Cymru hefyd wedi croesawu’r cyhoeddiad.
Undeb Myfyrwyr yn galw am gael gwared ag arholiadau yn llwyr
Yn y cyfamser, mae Becky Ricketts, llywydd Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru, yn galw am adolygiad pellach i’r defnydd o arholiadau y tu hwnt i’r pandemig.
“Bydd y penderfyniad hwn yn rhoi sicrwydd i fyfyrwyr ac rwy’n croesawu’r ffaith bod gan fyfyrwyr a staff addysgu amser i gynllunio a pharatoi,” meddai.
“Mae hyn hefyd yn atgyfnerthu bod athrawon yng Nghymru yn cael eu gwerthfawrogi a’u bod yn y sefyllfa orau i ddethol graddau myfyrwyr yn hytrach nag algorithm.
“Mae hefyd yn amlwg nad yw arholiadau yn ffordd ddigonol o asesu myfyrwyr ac mae Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr yn galw am adolygiad pellach o’r defnydd o arholiadau fel dull o asesu.”