Mae Llys Apêl wedi penderfynu bod caniatâd cynllunio a roddwyd ar gyfer datblygiad tai yn Aberdyfi dros 50 mlynedd yn ôl wedi’i ddiddymu.
Yn 1967, cafodd caniatâd cynllunio ei roi i adeiladu 401 o dai yn Aberdyfi gan yr hen Gyngor Sir Feirionnydd.
Dim ond 27 o dai sydd wedi cael eu hadeiladu ar y safle ers i’r cynlluniau gael eu cymeradwyo.
Ond yn ôl Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, “nid yw’r un o’r 27 o dai sydd wedi eu hadeiladu ar y safle yn cydymffurfio â’r cynllun gwreiddiol”.
Cymerodd y datblygwr gamau cyfreithiol yn erbyn Awdurdod Y Parc Cenedlaethol, a chafodd yr achos ei gyflwyno i’r llysoedd fis Medi y llynedd.
Aeth y penderfyniad o blaid Awdurdod y Parc Cenedlaethol, a chafodd y caniatâd cynllunio gwreiddiol ei ddiddymu.
Cafodd y penderfyniad hwn ei gadarnhau gan y Llys Apêl yr wythnos ddiwethaf.
Ymateb
“Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn croesawu’r penderfyniad gan y Llys Apêl sydd yn cadarnhau penderfyniad gwreiddiol y Llys,” meddai Jonathan Cawley, Cyfarwyddwr Cynllunio a Rheolaeth Tir Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.
“Roedd ansicrwydd sylweddol ynglŷn â’r safle a sut y byddai’n datblygu.
“Nid yw’r un o’r 27 o dai sydd wedi eu hadeiladu ar y safle yn cydymffurfio â’r cynllun gwreiddiol, ac roedd hyn yn codi nifer o gwestiynau difrifol o ran beth fyddai’n cael ei ddatblygu ar y safle yn y dyfodol.
“Bydd hyn yn mynd i’r afael â’r dryswch a’r ansicrwydd o gylch y cynllun hanesyddol hwn.
“O ganlyniad, bydd rhaid i unrhyw ddatblygiad yn yr ardal yn y dyfodol gydymffurfio â’r Cynllun Datblygu Lleol.”