Mae’r newyddion am y datblygiadau diweddaraf wrth ddatblygu brechlyn ar gyfer Covid-19 wedi cael croeso gofalus.

Mae Boris Johnson, prif weinidog Prydain, yn gofyn i bobol barhau’n wyliadwrus er bod y cwmni fferyllol Pfizer yn mynnu eu bod nhw wedi gwneud datblygiadau pellach.

Mae Llywodraeth Prydain eisoes wedi archebu 40 miliwn dos o’r brechlyn, sy’n ddigon ar gyfer traean o’r boblogaeth.

Dywedodd Boris Johnson fod y brechlyn wedi goresgyn “rhwystr sylweddol” ond fod yna rwystrau pellach cyn y bydd yn barod i’w ddefnyddio.

Mae’r brechlyn wedi cael ei ddefnyddio ar fwy na 40,000 o bobol, ac mae’n ymddangos ei fod yn 90% yn llwyddiannus.

“Ond dydyn ni ddim wedi gweld y data diogelwch i gyd, ac mae angen adolygu’r casgliadau hyn,” meddai Boris Johnson.

“Felly rydyn ni wedi mynd y tu hwnt i un rhwystr sylweddol ond mae yna nifer eto i ddod cyn y byddwn yn gwybod fod modd defnyddio’r brechlyn.”

Ai’r brechlyn hwn yw’r ateb?

Er ei fod yn croesawu’r datblygiad diweddaraf, dywed Boris Johnson nad oes modd “dibynnu’n llwyr” ar y brechlyn i ddatrys y sefyllfa.

“Y camgymeriad mwyaf y gallem ei wneud nawr yw llacio ein hymdrechion ar eiliad mor hanfodol,” meddai.

Mae’r gyfradd ‘R’ – nifer yr heintiau ym mhob 100,000 o’r boblogaeth – yn dal yn fwy nag 1 ac mae nifer y rhai sy’n marw yn parhau i godi.

“Waeth bynnag a oes yna frechlyn ar y ffordd, rhaid i ni barhau i wneud popeth posib nawr i ostwng yr ‘R’,” meddai.

Croeso gan wyddonwyr

Mae gwyddonwyr hefyd wedi croesawu’r datblygiad fel un “arwyddocaol”.

Yn ôl yr Athro Peter Horby ym Mhrifysgol Rhydychen, roedd e’n “wên o glust i glust” o glywed am y brechlyn posib.

Dywed yr Athro Chris Whitty, Prif Swyddog Meddygol Lloegr, fod y brechlyn newydd yn dangos “grym gwyddoniaeth yn erbyn Covid” a bod y newyddion yn “galonogol” ac “yn destun optimistiaeth ar gyfer 2021”.

Ac yn ôl ei ddirprwy, yr Athro Jonathan Van-Tam, mae’r datblygiad yn un “gwyddonol bwysig iawn” ac yn “garreg filltir enfawr” ond unwaith eto, mae yntau hefyd yn dweud bod angen mwy o ddata ynghylch ei lwyddiant.

Mae’n dweud ymhellach fod y brechlyn yn annhebygol o “wneud unrhyw wahaniaeth yng nghanol y don rydyn ni ynddi ar hyn o bryd”.

Tra bod David Nabarro o Goleg Imperial yn Llundain yn dweud bod “unrhyw newyddion addawol am frechlyn yn newyddion gwych”, dywed yr Athro Syr John Bell o Brifysgol Rhydychen fod “90% yn effeithiol yn lefel anhygoel o effeithlonrwydd” ac y gall pobol edrych ymlaen at y gwanwyn.

Gwybodaeth ffug a chamarweiniol

Yn y cyfamser, mae Boris Johnson a Jonathan Van-Tam wedi bod yn ymateb i’r hyn maen nhw’n ei alw’n wybodaeth gamarweiniol a ffug am frechlyn posib.

Yn ôl yr Athro Jonathan Van-Tam, fydd e ddim yn neilltuo “rhagor o amser” i drafod gwybodaeth ffug am frechlyn, gan ddweud ei fod yn disgwyl cryn alw amdano pan ddaw.

Mae lle i gredu bod GCHQ, y gwasanaeth cudd-wybodaeth, yn cynnal ymchwiliad i geisio atal gwybodaeth ffug ynghylch brechlyn rhag cael ei dosbarthu’n eang gan y rhai sy’n ddrwgdybus.

Yn ôl Full Fact, y gwasanaeth gwirio ffeithiau, maen nhw’n disgwyl mwy a mwy o negeseuon ar y we yn gwrthwynebu brechlyn.

Dywed yr Athro Jonathan Van-Tam fod yna “debygolrwydd syfrdanol ymhlith yr henoed o orfod mynd i’r ysbyty neu farw” ac y bydd “galw sylweddol iawn am y brechlyn hwn a rhai eraill fydd yn dilyn ymhlith yr henoed”.

Yn ôl Boris Johnson, dydy’r dadleuon gwrth-frechlyn “ddim yn dal dŵr”.

Rhybudd gan undeb

Yn y cyfamser, mae undeb Unsain yn rhybuddio na ddylai cwmni preifat fod yn gyfrifol am unrhyw frechlyn a ddaw yn y dyfodol.

Maen nhw’n galw am roi’r rhaglen frechu yn nwylo’r Gwasanaeth Iechyd a chyrff iechyd cyhoeddus.

“Er eu bod yn ddyddiau cynnar, gall hwn fod y newyddion y mae’r byd wedi bod yn aros amdano,” meddai Christina McAnea, ysgrifennydd cyffredinol cynorthwyol yr undeb.

“Ond yn dilyn yr helynt profi ac olrhain, rhaid bod yna dryloywder a chraffu go iawn y tro hwn.

“Dylai’r llywodraeth ddefnyddio’r diwrnodau a’r wythnosau i ddod i sicrhau, pan fo’r brechlyn yn barod, fod ei gyflwyno yn cael ei reoli’n llwyr gan y Gwasanaeth Iechyd a chyrff iechyd cyhoeddus.

“Ddylai cwmnïau preifat ddim cael bod yn agos i’r rhaglen i roi’r brechlyn i bobol dros 80, staff iechyd a gofal na’r boblogaeth ehangach.

“Rhaid i bobol broffesiynol maes gofal iechyd gyflwyno’r brechlyn.”