Mae Plaid Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud penderfyniad ynghylch arholiadau haf 2021 er mwyn lleihau’r pryder maen nhw’n dweud y gallai diffyg eglurder ei achosi.

Yn ôl Siân Gwenllian, llefarydd addysg Plaid Cymru, mae angen eglurder ar ddysgwyr ynghylch a fydd disgwyl iddyn nhw sefyll arholiadau yn ystod y flwyddyn ysgol bresennol ai peidio.

Dywedodd fod angen i’r Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams “wneud yn iawn am yr amser a gafodd ei golli” wrth aros am ganlyniadau dau adolygiad cyn dechrau ymgynghori â’r sector addysg.

Gofynnodd pam nad oedd Llywodraeth Cymru wedi dechrau ymgynghoriad ym mis Medi, yn syth ar ôl “ffiasgo arholiad haf 2020.”

Mae Cymwysterau Cymru hefyd yn argymell y dylid canslo arholiadau TGAU yng Nghymru y flwyddyn nesaf gael eu dileu, gyda graddau’n seiliedig ar waith cwrs ac asesiad mewnol.

Difreintiedig

Mae Siân Gwenllian hefyd wedi mynegi pryderon fod plant mewn ardaloedd difreintiedig yn llai tebygol o berfformio’n dda o dan amodau arholiadau ac yn fwy tebygol o fod wedi methu dyddiau ysgol o ganlyniad i gyfraddau heintio uwch.

Mae Plaid Cymru wedi galw am gael gwared ar arholiadau haf 2021 sawl gwaith.

“Mae angen i Lywodraeth Cymru wneud penderfyniad cyflym ar arholiadau haf 2021,” meddai Siân Gwenllian.

“Mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion eisoes wedi cael blwyddyn addysgol anodd, ac mae llawer ohonynt yn dal i brofi’r pryder sy’n deillio o fyw drwy bandemig byd-eang.

“Bydd angen i’r Gweinidog Addysg ymgynghori â’r sector ar unrhyw benderfyniad, a hynny’n briodol. Rwy’n poeni y bydd effaith peidio â dechrau’r ymgynghoriad hwn ym mis Medi – neu hyd yn oed yn syth ar ôl ffiasgo arholiad haf 2020 – yn llusgo’r anochel ymhellach.

“Os yw Llywodraeth Cymru yn mynnu bwrw ymlaen ag arholiadau yn haf 2021, rydym yn wynebu’r risg o gosbi plant o ardaloedd difreintiedig.”

Mae disgwyl cyhoeddiad ar gynnal arholiadau haf 2021 yn fuan.

Darllen mwy