Mae busnesau Caerdydd wedi bod yn croesawu diwedd y cyfnod clo yng Nghymru… ond mae llawer yn dweud eu bod yn ansicr ynghylch y dyfodol.
Wrth i fanwerthwyr, bariau a chaffis ailagor, roedd yno giwiau y tu allan i siopau yng nghanol dinas Caerdydd ychydig oriau ar ôl i’r cyfnod clo 17 diwrnod yng Nghymru ddod i ben.
Dywedodd Tom Morgan, 26, sy’n cyd-berchen ar y Bar Pitch a’r Eatery yng Nghaerdydd: “Rydym yn gyffrous iawn o allu bod nôl ar agor i’n cwsmeriaid.
“Mae wedi bod yn anodd, yn enwedig gan ein bod yn aros cryn amser am y cyngor terfynol gan Lywodraeth Cymru a ddaeth allan ar y dydd Gwener [cyn y clo] yn unig.”
Aeth ymlaen i ddweud ei fod yn “nerfus” am y posibilrwydd o gyfnod clo arall yn y dyfodol.
Mae diwedd y cyfnod clo yn golygu y gall grwpiau o hyd at bedwar o bobol gyfarfod mewn caffis, tafarndai a bwytai tra gall siopau, campfeydd, trinwyr gwallt a mannau addoli ailagor hefyd.
Dywedodd Paul Bainton, 68, perchennog siop goffi Le Rendez-Vous yn Queens Arcade: “Roedd yn rhwystredig mynd yn ôl i gyfnod clo, ond dw i’n credu ei fod yn rhywbeth yr oedd yn rhaid ei wneud oherwydd, yn amlwg, roedd [nifer yr] achosion yn codi.”
Dychweliad manwerthu’n “cael i reoli’n dda”
Yng nghynhadledd coronafeirws Llywodraeth Cymru heddiw (Tachwedd 9), dywedodd Mark Drakeford nad oedd wedi ei synnu o weld ciwiau o bobol y tu allan i siopau, nod bod dychweliad manwerthu yng Nghymru’n “cael ei reoli’n dda.”
“Yn ôl yr adroddiadau yr wyf i wedi’u derbyn, mae’n cael ei reoli’n dda,” meddai.
“Mae siopau manwerthu wedi gwneud ymdrech fawr i sicrhau bod ciwiau’n cael eu rheoli, bod pobl sy’n dod i mewn ac allan o siopau yn cael eu rheoli’n briodol a bod cwsmeriaid yn cadw pellter cymdeithasol ac yn parchu pobol eraill.”