Mae’r Prif Weinidog wedi dweud bod “arwyddion cadarnhaol cynnar” bod y cyfnod clo dros dro wedi lleihau cyfraddau achosion o’r coronafeirws yng Nghymru.

Dywedodd Mark Drakeford fod niferoedd achosion newydd yn dechrau gostwng wrth i Gymru baratoi i fyw o dan fesurau cenedlaethol newydd o ddydd Llun (Tachwedd 9) ymlaen.

Gallwch weld ffigurau achosion Covid-19 diweddaraf ar gyfer pob ardal awdurdod lleol yng Nghymru yma.

Mae diwedd y cyfnod clo golygu y gall grwpiau o hyd at bedwar o bobol gyfarfod mewn caffis, tafarndai a bwytai tra gall siopau, campfeydd, trinwyr gwallt a mannau addoli ailagor hefyd.

Bydd archfarchnadoedd yn cael gwerthu eitemau nad ydynt yn hanfodol tra bydd pobl ddim ond yn cael cyfarfod y tu mewn i gartrefi gydag aelodau o un aelwyd arall os ydyn nhw wedi ymuno â “swigod”.

Dywedodd Mark Drakeford wrth y gynhadledd i’r wasg fod lefel Cymru bellach wedi gostwng o 250 o achosion ymhob 100,000 person i ychydig o dan 220 o achosion – a phwysleisiodd ei bod yn “hanfodol” bod pobl yn parhau i weithio gartref.

“Fyddwn ni ddim yn gwybod yr effaith lawn am ychydig wythnosau eto ond mae rhai arwyddion cadarnhaol cynnar, ac mae’r rheini’n rhoi rhywfaint o obaith i ni,” meddai

Achosion yn gostwng yn Merthyr Tudful

Dywedodd Mark Drakeford fod y cyfraddau ym Merthyr Tudful – sef yr ardal waethaf y Deyrnas Unedig yr wythnos diwethaf gyda 741 o achosion i bob 100,000 o bobl – bellach wedi gostwng i tua 520.

Dywedodd: “Mae hyn yn dal yn rhy uchel, ond mae’n gwymp pwysig.”

Ond roedd nifer y bobl a oedd yn cael eu cludo i’r ysbyty yn parhau i godi, meddai, gan ychwanegu bod mwy na 1,400 o achosion yn ymwneud â’r coronafeirws yn ysbytai Cymru erbyn hyn.

Mae hyn yn uwch nag yn ystod uchafbwynt y feirws mis Ebrill.

A dywedodd y byddai niferoedd uchel o farwolaethau yn parhau “nes i ni gael y coronafeirws o dan reolaeth”.

Mesurau’n cael eu hadolygu ymhen pythefnos

Bydd mesurau cenedlaethol newydd Cymru yn cael eu hadolygu ymhen pythefnos, meddai Mark Drakeford.

Pwysleisiodd bod angen i’r wlad ddod allan o’r cyfnod clo yn ofalus er mwyn iddo gael yr effaith fwyaf bosibl.

Aeth ymlaen i ddweud nad yw Llywodraeth Cymru wedi “diystyru” cymryd camau yn lleol pe bai ardaloedd o’r wlad yn gweld cynnydd parhaus mewn achosion, gan ddweud bod gan weinidogion fynediad at “amryw o gamau y gallwn eu cymryd ar lefel leol pe bai angen”.

Dywedodd Andrew RT Davies, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar Iechyd, ei fod yn croesawu’r newyddion y byddai cyfyngiadau lleol yn cael eu hystyried.

Dywedodd: “Does neb eisiau gweld rhagor o gyfyngiadau, ond os ydynt am gael eu gorfodi eto, yna mae’n rhaid eu targedu yn seiliedig ar ddata cywir a lleol,” meddai.

Dywedodd Mr Drakeford fod y syniad o brofion torfol ar gyfer trefi cyfan, fel yr hyn sy’n cael ei dreialu yn Lerpwl, yn “ddeniadol” ac y byddai gweinidogion Cymru yn “ceisio gweld ffyrdd y gallwn ddysgu o’r profiad hwnnw a’i roi ar waith yng Nghymru”.

Dychweliad manwerthu’n “cael i reoli’n dda”

Wrth ymateb i giwiau o bobl y tu allan i siopau a ailagorwyd yng nghanol dinas Caerdydd, dywedodd Mark Drakeford bod dychweliad manwerthu yng Nghymru’n “cael ei reoli’n dda.”

“Yn ôl yr adroddiadau yr wyf i wedi’u derbyn, mae’n cael ei reoli’n dda,” meddai.

“Mae siopau manwerthu wedi gwneud ymdrech fawr i sicrhau bod ciwiau’n cael eu rheoli, bod pobl sy’n dod i mewn ac allan o siopau yn cael eu rheoli’n briodol a bod cwsmeriaid yn cadw pellter cymdeithasol ac yn parchu pobol eraill ,” meddai Mr Drakeford.

Ffigurau diweddaraf

Ddydd Llun (Hydref 9) adroddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru am 931 o achos newydd o’r coronafeirws yng Nghymru, gan ddod â chyfanswm nifer yr achosion a gadarnhawyd i 60,912.

Adroddwyd hefyd am wyth marwolaeth arall, gan gymryd y cyfanswm yng Nghymru ers dechrau’r pandemig i 2,041.