Mae bragdai bychain yng Nghymru wedi ymateb i gynlluniau Llywodraeth San Steffan i fwrw ymlaen gyda’u bwriad o ddiwygio’r ffordd maent yn cael eu trethu.
Gall y diwygiadau hyn fod yr “hoelen olaf yn arch” llawer o fragdai bychain, annibynnol, yn ôl Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts.
Mae’r bwriad dadleuol i dorri Rhyddhad Treth Bragdai Bychain wedi ei feirniadu yn llym gan gyfarwyddwr Bragdy Lleu, Robat Jones wrth iddo ddatgan “mai ddigon anodd i ni fel mae hi.”
“Goblygiadau difrifol i fragdai bychain”
Mae’r Rhyddhad Treth Bragdai Bychain, yn caniatáu gostyngiad o 50% ar dreth gwrw i fragdai sy’n cynhyrchu llai na 5,000 hectolitr (880,000 peint) y flwyddyn.
Bwriad Canghellor y Deyrnas Unedig, Rushi Sunak, yw gostwng hynny o 5,000 hectolitr i 2,100 hectolitr.
“Ers ei gyflwyno yn 2002, mae’r Rhyddhad Treth Bragdai Bychain wedi caniatáu i Gymru a gweddill y Deyrnas Unedig ddatblygu sector bragdai crefft ffyniannus o’r safon uchaf, sy’n cefnogi tua 6,000 o weithwyr llawn-amser gan gyfrannu rhyw £270 miliwn i GDP y Deyrnas Unedig,” meddai Ms Saville Roberts.
Dywedodd fod hynny wedi arwain at “gryfhau ansawdd ac amrywiaeth diwydiant diodydd Cymru.”
“Bydd gan ddiwygiadau treth mor llym â’r rhai a gynigir oblygiadau difrifol i fragdai bychain annibynnol yn f’etholaeth ac yn wir ym mhob cwr o Gymru,” meddai.
“Gallai torri’r gefnogaeth hanfodol hon yn awr, pan fo cymaint o ansicrwydd yn yr economi, roi’r farwol lawer o i fragdai bychain annibynnol ledled Cymru. Rwy’n annog y llywodraeth i ailfeddwl.”
“Goblyn o hit i bobl fatha ni”
“Mai ddigon anodd i ni fel mae hi,” meddai cyfarwyddwr Bragdy Lleu, Robat Jones.
“Y ddadl ydi bod 80% o fragdai ddim am gael eu heffeithio ond pan ti’n sbïo arnom ni a bragdai lleol eraill, sydd yn trio tyfu busnes i greu cyflogaeth a thrio cymryd sleisen o dwristiaeth a chadw fo i berchnogaeth leol – mae o’n goblyn o hit i bobl fatha ni.”
Mae Bragdy Lleu, sy’n cynhyrchu cwrw crefft yn ardal Dyffryn Nantlle, yn cael ei redeg gan wirfoddolwyr ers sefydlu yn 2013.
Fodd bynnag, eglurodd y cyfarwyddwr bod ganddynt gynlluniau i ehangu gan gychwyn cyflogi staff flwyddyn nesaf. Yn sgil y pandemig, Brexit, a’r codiad treth, mae hynny bellach yn y fantol.
“Mae amseru’r peth yn ofnadwy o wael,” meddai, “’da ni mewn cysylltiad hefo lot o fragdai ar hyd a lled Prydain a ma’ lot ohonyn nhw wedi rhoi’r ffidl yn y to yn barod hefo’r busnes Covid ac mae o’n mynd i ladd lot fwy o fragdai.”
“Mwy o broblemau a mwy o boen”
“Mae hyn yn mynd i godi mwy o broblemau a fwy o boen i fusnesau,” meddai cyfarwyddwr Cwrw Ogwen, Richard Moore.
“Dwi’n deall bod rhaid iddyn nhw wneud beth sydd rhaid iddyn nhw wneud ond pam ddim dal arni? Dydi gwneud hyn yng nghanol pandemig ddim yn gwneud sens.”
“’Da ni jyst ’di bod yn trio cadw’r enw i fynd a gobeithio dod allan yr ochr arall a chael y busnes yn ôl ar ei draed.”
Cefnogi bragdai bach i dyfu yn raddol
Dywedodd llefarydd ar ran y Trysorlys wrth BBC Cymru Fyw bod y cynlluniau newydd yn daparu mwy o gymorth a chefnogaeth i fragdai bach ehangu ac i dyfu yn raddol, yn hytrach na bod cymorth yn cael ei dynnu oddi arnynt yn sydyn ar ôl cyrraedd lefel penodol o werthiant.
Dywedodd Liz Saville Roberts y byddai’n codi’r mater yn Senedd San Steffan heno (Tachwedd 9).