Mae Aelod o’r Senedd Arfon, Siân Gwenllian, wedi croesawu’r cyhoeddiad y bydd canolfan brofi coronafeirws yn dod i ddinas Bangor, gan ddweud ei bod “yn hen bryd”.

Daeth cyhoeddiad gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr y bydd canolfan brofi coronafeirws yn agor ym Mangor yr wythnos hon, ar ôl iddi fod ar agor ar gyfer cynllun peilota dros y penwythnos.

“Dw i’n croesawu’r cyhoeddiad y bydd canolfan brofi yn cael ei hagor ym Mangor yr wythnos hon. Mae’n Hen bryd.

“Dylai’r ganolfan fod wedi’i hagor cyn i Fangor fynd i gyfnod clo lleol, er enghraifft, ac yn enwedig cyn diwedd y cyfnod clo.”

Dywedodd ei bod wedi cael gwybod bod trafodaethau wedi’u cynnal rhwng Prifysgol Bangor a Deloittes, sy’n gyfrifol am y cytundeb ar gyfer y ganolfan brofi leol, ac y byddai gwaith yn cael ei wneud i agor y ganolfan yr wythnos hon.

“Os ydym o ddifrif am fynd i’r afael â’r feirws hwn, sydd wedi achosi cymaint o ddifrod, mae’n bwysig bod gennym gynllun profi cadarn ac effeithiol,” meddai.

“Mae angen eglurder ar bobol Bangor. Ond dw i’n croesawu’r cyhoeddiad, ac yn falch o weld cynnydd ar y mater hwn o’r diwedd.”