Mae Prif Weinidog Cymru wedi dweud y bydd cyfarfod rhwng pedair llywodraeth y Deyrnas Unedig i drafod y Nadolig yn cael ei gynnal yn ddiweddarach yr wythnos hon.
Roedd Mark Drakeford eisoes wedi dweud ei fod o’n gobeithio gallu gweithredu “dull pedair gwlad” o fynd i’r afael â’r coronafeirws yn yr wythnosau cyn y Nadolig.
Dywedodd Mark Drakeford wrth y gynhadledd i’r wasg fod Swyddfa Cabinet Michael Gove wedi cysylltu â’i dîm i “drefnu dyddiad” yn ystod y dyddiau nesaf i drafod “strategaeth gyffredin at y Nadolig”.
Aeth ymlaen i ddweud bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi awgrymu y byddai “ymgysylltu wythnosol” â’r pedair gwlad o hyn ymlaen, gan arwain at y “rhythm rheolaidd a dibynadwy” y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn galw amdano
“Dw i’n meddwl ei bod yn newyddion da mai’r pwnc trafod cyntaf fydd cynllun cyffredin ar gyfer y Nadolig oherwydd credaf yn gryf iawn mai dyma un o’r meysydd hynny lle mai cael strategaeth ledled y Deyrnas Unedig yw’r ffordd gywir o allu cynnig gobaith i bobol yma yng Nghymru ac mewn mannau eraill y gallwn gynllunio’n bwrpasol gyda’n gilydd ar gyfer y tymor,” meddai Mark Drakeford.
Mark Drakeford ddim yn diystyru mesurau pellach
Roedd y Prif Weinidog yn siarad wrth i’r cyfnod clo 17 diwrnod ddod i ben yng Nghymru, gyda mesurau cenedlaethol newydd yn cael eu rhoi ar waith.
Mae yno “arwyddion cadarnhaol cynnar” bod y cyfnod clo dros dro wedi lleihau cyfraddau achosion o’r coronafeirws yng Nghymru, yn ôl y Prif Weinidog.
Ond dywedodd na allai ddiystyru gosod mesurau pellach.
“Yr hyn rydym yn ei gynllunio ar gyfer yr wythnosau nesaf yw sicrhau bod yr ymdrechion rydym wedi’u gwneud yn rhoi llwybr i ni am weddill y flwyddyn hon a dros gyfnod y Nadolig,” meddai.
“Dim rheswm” i beidio anfon cardiau Nadolig
Does “dim rheswm” i beidio anfon cardiau Nadolig eleni, yn ôl Mark Drakeford.
Talodd deyrnged i weithwyr y Post Brenhinol am wneud “gwaith gwych” drwy gydol pandemig.
“Byddaf yn dibynnu ar wasanaethau hynod broffesiynol y Post Brenhinol a diolchaf i’w gweithwyr am yr ymdrechion enfawr maen nhw’n ei wneud i sicrhau bod ein post Nadolig yn cyrraedd y rhai yr ydym eisiau bod mewn cysylltiad â nhw, eleni yn fwy nag erioed.”