Mae Mark Drakeford, prif weinidog Cymru, yn dweud ei fod e’n gobeithio gallu gweithredu “dull pedair gwlad” o fynd i’r afael â’r coronafeirws yn yr wythnosau cyn y Nadolig.

Daw cyfyngiadau cyfnod clo dros dro Cymru i ben yfory (dydd Llun, Tachwedd 9), tra bod Lloegr mewn cyfnod clo tan Ragfyr 2.

Mae system haenau ar waith yn yr Alban, tra bod cyfyngiadau yn dod i ben yng Ngogledd Iwerddon ar Dachwedd 13.

Ond mae angen rhoi un cynllun ar waith ar gyfer y pedair gwlad, yn ôl Mark Drakeford.

“Cawsom addewid gan Michael Gove y byddwn ni’n cael cyfarfod arall o’r pedair gwlad yr wythnos hon fel y gallwn ni rannu syniadau, cynllunio gyda’n gilydd, a chael dull ar y cyd ar gyfer cyfnod y Nadolig,” meddai wrth raglen Sophy Ridge on Sunday.

“Dw i wir yn gobeithio y bydd y cyfarfod hwnnw’n digwydd.”

‘Seibiant dros y Nadolig’

Mae’n dweud y byddai’n ffafrio sefyllfa lle na fydd cyfyngiadau yn eu lle dros gyfnod y Nadolig.

“Mae’r cyfyngiadau y bu’n rhaid i bobol fyw â nhw yn eithriadol o anodd a blinderus, ac mae pawb wedi syrffedu yn sgil y coronafeirws.

“Os gallwn ni gynnig seibiant dros y Nadolig, yna dyna beth hoffen ni ei wneud.

“Yr unig ffordd o wneud hynny yw i ni gael y cyfle hwnnw i gyfarfod a thrafod gyda’n gilydd.

“Dw i wir yn gobeithio bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig o ddifri am hyn ac yn sicrhau bod y cyfleoedd hynny ar gael i ni i gyd.”