Mae Cymraes o Abertawe sydd bellach yn byw yn Nevada yn dweud bod “gobaith ar y gorwel” yn yr Unol Daleithiau gyda Joe Biden yn arlywydd.
Yn ôl Annalise Roberts Tingler, mae “eithaf tyndra” wedi bod yn y dalaith yn ystod yr ymgyrch sydd wedi gweld y Democrat yn curo’r arlywydd Gweriniaethol Donald Trump, sy’n honni twyll etholiadol wrth gyfri’r pleidleisiau, gan fynd â sawl achos i’r llys.
“Teimlais i shwd ryddhad pan glywais i ganlyniadau’r etholiad,” meddai wrth golwg360.
“Does neb yn berffaith, ond mae Biden wedi dangos ei hun, dros y blynyddoedd, fel dyn gofalgar sy’n credu mewn undod.
“Rwy’n teimlo bod ganddo fe fuddiannau gorau’r bobol yn agos at ei galon, ac y bydd yn gwneud ei orau i symud ymlaen o’r pedair blynedd diwethaf.
“Nid yw’n mynd i fod yn hawdd, mae yna lawer o bobol allan yna a bleidleisiodd dros Trump – sy’n ffrwydro fy meddwl! – ac maen nhw’n mynd i gynhyrfu, ond o leiaf gyda Biden yn y Tŷ Gwyn, mae’n teimlo fel bod gobaith newydd ar y gorwel!”
‘Tyndra yn Nevada’
Daeth chwech o bleidleisiau’r coleg etholiadol i Joe Biden yn Nevada, un o’r taleithiau mwyaf allweddol yn y ras ac un o’r rhai olaf i ddatgan eu canlyniadau cyn i arbenigwyr hawlio’r fuddugoliaeth i’r Democratiaid bedwar diwrnod wedi diwrnod yr etholiad.
Roedd Donald Trump wedi bod yn hyderus o ennill yn Nevada, gan gynnal sawl rali yno yn ystod ei ymgyrch.
Aeth y dalaith i’r Democratiaid a Hillary Clinton bedair blynedd yn ôl, ond roedd hi’n cael ei hystyried yn dalaith ymylol o hyd y tro hwn.
Mae economi’r dalaith ar chwâl yn sgil y coronafeirws a diffyg twristiaid ac roedd gan Donald Trump dalcen caled wrth geisio darbwyllo’r boblogaidd Hisbaenaidd i droi at y Gweriniaethwyr.
Does yna’r un Gweriniaethwr wedi ennill y dalaith ers George W. Bush yn 2004.
“Mae eithaf tyndra wedi bod yn Nevada yn ystod yr etholiad, gyda phobol yn lleisio eu barn yn gryf lle bynnag rydych chi’n mynd,” meddai Annalise Roberts Tingler.
“Mae’n wallgof, yr holl faneri gwleidyddol welwch chi ar geir pobol ac yn eu gerddi.
“Rydych chi’n gallu teimlo’r rhaniad rhwng pobol ac mae pobol wedi dod yn fwy gofalus yn eu perthnasau â ffrindiau a chydweithwyr sydd ‘ar yr ochr arall’.”