Mae Mark Drakeford, prif weinidog Cymru, yn dweud na fydd Cymru’n dychwelyd i “glytwaith” o gyfyngiadau coronafeirws lleol ar ôl y cyfnod clo dros dro, sy’n dod i ben yfory (dydd Llun, Tachwedd 9).
Yn hytrach, fe fydd cyfyngiadau cenedlaethol newydd a fydd yn haws i’w dilyn, meddai.
Ac mae’n dweud y bydd dulliau lleol yn cael eu defnyddio i dargedu unrhyw gynnydd sylweddol mewn ardal benodol, er enghraifft mewn ffatri.
“Fyddwn ni ddim yn mynd yn ôl i ddibynnu ar glytwaith o fesurau lleol, rydym am gael set newydd o reolau cenedlaethol sy’n fwy clir, yn fwy syml ac yn haws i’w dilyn felly,” meddai wrth raglen Sophy Ridge on Sunday ar Sky.
“Dydy hynny ddim yn golygu, wrth gwrs, na fydd angen gweithredu’n lleol pe bai cynnydd lleol ond fydd yna ddim dibyniaeth yn llwyr ar fesurau lleol.
“Os oes yna gyfyngiadau lleol, byddwn ni’n eu targedu nhw wrth wraidd y niferoedd.
“Merthyr yw’r fro leiaf yng Nghymru gyfan, mae niferoedd cymharol isel yn gyrru canrannau a chyfraddau eithaf mawr.
“Os oes yna resymau penodol ym Merthyr, er enghraifft roedd ffatri gyda ni ym Merthyr lle oedd yna achosion, yna yr hyn fyddwn ni’n ei wneud, yn lle cymryd camau cenedlaethol, yw ceisio meddwl am bethau y gallwn ni eu gwneud i dargedu a gwasgu unrhyw beth sy’n achosi cynnydd lleol.”