Mae Mark Drakeford, prif weinidog Cymru, yn dweud ei fod yn credu bod yna “lwybr hyd at y Nadolig” heb fod angen cyflwyno cyfnod clo dros dro eto yn y wlad.

Daw’r cyfyngiadau presennol i ben yfory (dydd Llun, Tachwedd 9), pan fydd cyfyngiadau newydd llai llym yn dod i rym.

Fe ddywedodd wrth raglen Sophy Ridge on Sunday ar Sky fod y cam nesaf yn dibynnu ar ymddygiad pobol wrth gadw at y rheolau ar ôl y cyfnod clo dros dro.

“Dw i wedi bod yn dweud wrth bobol yng Nghymru nad y cwestiwn sydd angen i ni ei ofyn i ni ein hunain yw beth alla i wneud, pa mor bell alla i ymestyn y rheolau ond yn hytrach, beth ddylwn i ei wneud, beth ddylwn i ei wneud i ‘nghadw i a phobol eraill yn ddiogel?” meddai.

“Os ydyn ni’n osgoi cyswllt â phobol eraill ac os ydym ond yn teithio pan fo angen, gweithio gartref pryd bynnag y gallwn ni, byddwn ni’n adeiladu ar yr hyn sydd wedi’i gyflawni yma dros y 17 diwrnod diwethaf.

“Bydd hynny’n rhoi llwybr i ni hyd at y Nadolig heb fod angen mynd yn ôl i’r cyfnod eithriadol hwn o gyfyngiadau.”

Effaith y cyfnod clo dros dro

Dywed Mark Drakeford nad yw’n disgwyl gweld effaith y cyfnod clo dros dro yng Nghymru tan ar ôl yfory.

“Mae’r arwyddion cynnar, yn enwedig o ran pethau fel teithio, yn dweud wrthym fod pobol yng Nghymru wedi gwneud yr hyn wnaethon ni ofyn iddyn nhw ei wneud,” meddai.

“Pan ddown ni allan o’r cyfnod clo dros dro yfory, bydd angen i ni wedyn barhau i wneud popeth allwn ni i gadw’r feirws yma dan reolaeth go iawn.”

Dywed ymhellach fod y cynnydd mewn achosion mewn rhai ardaloedd yn ystod y cyfnod clo dros dro yn “anochel”.

“Roedd pobol a gafodd eu taro’n wael yn ystod pythefnos y cyfnod clo dros dro eisoes wedi cael eu heintio cyn i’r cyfnod clo dros dro ddechrau.

“Roedden ni’n gwbl sicr y byddem yn gweld y niferoedd hynny’n parhau i godi yn ystod y cyfnod clo dros dro ei hun.

“Dim ond yn yr ychydig wythnosau ar ôl Tachwedd 9 y byddwn ni’n gweld effaith y cyfnod clo dros dro, dyna pryd rydyn ni’n gobeithio gweld y niferoedd yn gostwng, dyna pryd rydyn ni’n disgwyl i nifer y bobol sy’n mynd i’r ysbyty yn dechrau mynd am yn ôl.”