Mae hanesydd a newyddiadurwr sy’n arbenigo mewn meysydd glo wedi dweud wrth golwg360 fod “cymaint o ddyletswydd ar Lywodraeth Prydain ag sydd ar Lywodraeth Cymru” er mwyn diogelu tomenni glo de Cymru.

Daw sylwadau Peter Williams, sydd â’i wreiddiau teuluol yng Nghymru ac sydd wedi gohebu ac ysgrifennu’n heleth ar feysydd glo, yn dilyn rhybudd i Rishi Sunak, Canghellor San Steffan, y gallai gostio mwy na hanner biliwn o bunnoedd i ddiogelu 2,000 o hen lofeydd yng Nghymru yn ystod y degawd i ddod.

Yn dilyn llifogydd yng Nghwm Rhondda ddechrau’r flwyddyn yn sgil cyfres o stormydd, fe fu pwysau ar y ddwy lywodraeth i weithredu ar frys er mwyn osgoi rhagor o ddigwyddiadau tebyg, gyda rhai arbenigwyr yn rhybuddio bod newid hinsawdd yn debygol o arwain at ragor o dirlithriadau yn y dyfodol.

Cefndir

Ym mis Hydref, fe wnaeth Llywodraeth Prydain neilltuo £2.5m i lanhau a diogelu safle Pendyrus.

Ond fe ddywedodd Llywodraeth Cymru y byddai’r gost yn sylweddol uwch.

Mae disgwyl i’r gwaith cyfan yng Nghwm Rhondda gostio £82.5m ac mae gwleidyddion lleol yn dadlau y byddai’n annheg disgwyl i gymunedau lleol dalu’r gost honno.

Ac maen nhw’n rhybuddio y gallai digwyddiadau tebyg godi eto yn y dyfodol oni bai bod mwy o arian yn cael ei roi, ond mae Llywodraeth Prydain yn mynnu ei fod yn fater sydd wedi’i ddatganoli i Lywodraeth Cymru.

Ond mae Llywodraeth Prydain hefyd yn dweud eu bod nhw’n cydweithio â Llywodraeth Cymru i sicrhau cymorth llifogydd, gan gynnwys cymorth i safleoedd glofaol.

Mae ymchwiliad ar y gweill dan arweiniad Llywodraeth Cymru hefyd yn tynnu ar arbenigedd yr Awdurdod Glo, Cyfoeth Naturiol Cymru a chynghorau lleol.

Fel rhan o’r ymchwiliad, mae rhestr o’r safleoedd mewn perygl yn cael ei lunio, ynghyd â statws y perygl hwnnw.

Rhannu’r cyfrifoldeb

Ond yn ôl Peter Williams, mae llywodraethau Cymru a Phrydain yn rhannu’r ddyletswydd i ddiogelu safleoedd yn y de.

“Does dim dwywaith – rhaid diogelu’r tomenni glo ac mae’r cyfrifoldeb am sicrhau eu bod nhw’n ddiogel yn nwylo Llywodraeth San Steffan gymaint ag ydyw yn nwylo’r Senedd,” meddai wrth golwg360.

“Mae’r hinsawdd yn newid, ac mae’n bosib y gall fod angen adolygu cyfrifiadau diogelwch a gafodd eu gwneud flynyddoedd yn ôl.

“Mae’r risg o ailadrodd trychineb Aberfan yn annychmygadwy.

“Fel newyddiadurwr 18 oed, fi oedd y cyntaf i gyrraedd Lynmouth yng ngogledd Dyfnaint yn 1952, pan gafodd y dref fach ei golchi i’r môr gan dorgwmwl a glaw di-dor.

“Bu farw 34 o bobol a chafodd 165 o adeiladau eu dinistrio neu eu difrodi’n ddifrifol.

“Roedd yn annisgwyl, meddai’r awdurdodau.

“Mae tywydd y byd yn gynyddol ‘annisgwyl’.

“Ers y diwrnod hwnnw, dw i erioed wedi anghofio pa mor beryglus yw tanbrisio grym natur.”

  • Mae Peter Williams wedi ysgrifennu’r gyfrol In Black and White am hanes meysydd glo Caint, oedd wedi deillio o’r ffilm ‘A Century of Coal’ sy’n trafod canrif ers eu sefydlu, a hanes y glowyr yn mudo o Gymru i dde-ddwyrain Lloegr i weithio yno.