Mae Dominic Raab, Ysgrifennydd Tramor Llywodraeth Prydain, yn gwadu iddo borthi theorïau cynllwyn drwy estyn croeso “gofalus a sensitif” i Joe Biden, Arlywydd yr Unol Daleithiau yn dilyn ei fuddugoliaeth.

Fe fu ffrae ers diwrnod yr etholiad, wrth i Donald Trump honni twyll etholiadol mewn sawl talaith a throi at y Goruchaf Lys i ddwyn sawl achos.

Ond mae’r canlyniadau sydd wedi dod i law yn awgrymu bod Joe Biden wedi mwy na’r 270 o bleidleisiau’r coleg etholiadol i gipio’r fuddugoliaeth, er nad yw’r cyfri swyddogol wedi dod i ben eto.

Mewn neges yn llongyfarch Joe Biden, dywedodd Dominic Raab fod “prosesau ar y gweill o hyd” ond fe ddywedodd wrth raglen Sophy Ridge on Sunday fod awgrymu ei fod e’n porthi’r theorïau cynllwyn “yn ffordd ragfarnllyd o edrych arni”.

“Y realiti yw ein bod ni eisiau parchu gonestrwydd a’r prosesau sydd ar waith,” meddai.

“Nid mater i ni yw dechrau barnu ar yr apeliadau, yr honiadau a’r gwrth-honiadau.

“Ond yr hyn rydyn ni wedi ei ddweud yw fod y canlyniad bellach yn amlwg iawn.

“Dw i’n credu ei fod y tu hwnt i unrhyw amheuaeth resymol, yn fy marn i…

“Yn blwmp ac yn blaen, mae rhai sydd eisiau beirniadu’r Deyrnas Unedig ar hyn o bryd, doed a ddel, am beth bynnag mae’r Llywodraeth hon yn ei ddweud, ond dw i am ganolbwyntio ar y sylwedd.

“Mae pobol yn cwyno am ymyrraeth yn ein gwleidyddiaeth yma – dw i’n credu ei bod hi’n iawn i droedio’n ofalus ac yn sensitif, yn enwedig ar ôl yr hyn oedd yn amlwg yn etholiad agos iawn, yn agosach o lawer nag yr oedd sylwebwyr y cyfryngau wedi’i ddisgwyl, ac mae wedi bod yn destun ffrae mewn sawl ffordd.

“Felly fe wnaethon ni droedio’n ofalus ac yn sensitif, roedden ni eisiau parchu’r broses, ond rydym yn edrych ymlaen at gydweithio â’r weinyddiaeth newydd.”