Mae Mark Drakeford, prif weinidog Cymru, yn dweud bod Sul y Cofio’n “wahanol iawn i’r hyn rydyn ni wedi arfer â fe” eleni, wrth iddo fe annog pobol i dalu teyrnged o’u cartrefi, gyda dim ond nifer fach o ddigwyddiadau ar y gweill heddiw.
Mae nifer o ddigwyddiadau o amgylch y wlad wedi’u trefnu ar y we gan na all pobol ddod ynghyd oherwydd cyfyngiadau’r cyfnod clo dros dro sydd mewn grym ar hyn o bryd.
Bydd pobol ar draws y wlad a thu hwnt yn cynnal tawelwch am 11 o’r gloch i gofio aberth y rhai fu farw mewn rhyfeloedd.
“Yn anffodus, nid dyma’r tro cyntaf – na chwaith y tro olaf – pan fydda i’n dechrau drwy nodi diwrnod neu ddigwyddiad arbennig yn ein calendr drwy ddweud, “Mae’n edrych yn wahanol iawn i’r hyn rydyn ni wedi arfer â fe,” meddai Mark Drakeford.
“Fydd dim torfeydd yn ymgynnull mewn eglwysi, wrth gofebau rhyfel na gerddi coffa ledled Cymru i dalu teyrnged i genedlaethau o ddynion a menywod sydd wedi gwasanaethu eu gwlad.
“Ond eto, ni a’u cofiwn nhw.
“Yr agwedd fwyaf creulon o’r pandemig hwn yw oherwydd fod y feirws yn ffynnu drwy gyswllt dynol, bu’n rhaid i ni leihau cymaint o’r cyswllt a fu rhyngom i gyd.
“Bydd llawer iawn yn llai o bobol yn mynychu gwasanaethau Sul y Cofio yn y cnawd eleni: byddan nhw’n mynychu ar ein rhan ni i gyd.”
‘Parhau i anrhydeddu’
“Ond er gwaethaf heriau’r feirws, rydym yn parhau i ymrwymo i anrhydeddu,” meddai wedyn.
“Fydd traed milwyr a chyn-filwyr yn gorymdeithio ar y cyd ddim mor uchel eleni; ond bydd Cymru’n uno unwaith eto yn ein gwerthfawrogiad o’r aberth anhygoel a wnaed.”
Bydd gwasanaeth Sul y Cofio o Gofeb Ryfel Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd yn cael ei ddarlledu ar y we, a bydd Mark Drakeford yn gosod torch o flodau.
Bydd Cyngor Hil Cymru hefyd yn cynnal seremoni i gofio aberth pobol groenddu, Asiaidd a lleiafrifoedd eraill mewn rhyfeloedd.
“Mae heddiw’n gyfle i fyfyrio ar y cyfraniad mae ein lluoedd arfog yn parhau i’w wneud,” meddai wedyn.
“Yn ystod y pandemig hwn, mae nifer wedi defnyddio’u sgiliau a’u harbenigedd i gefnogi ein Gwasanaeth Iechyd a’n gwasanaethau lleol.
“Mae’r rhai sy’n gwasanaethu wedi bod yn gyrru ambiwlansys ac wedi dosbarthu PPE, wedi adeiladu ysbytai maes ac wedi cefnogi parafeddygon – mawr yw ein dyled ni iddyn nhw i gyd ac i’n gweithwyr hanfodol am helpu i Gadw Cymru’n Ddiogel.
“Mae dynion a menywod eraill sy’n gwasanaethau wedi cael eu hanfon dramor – fel sy’n digwydd bob blwyddyn – gan gefnogi cymunedau mewn rolau cynnal heddwch neu gynnig diogelwch a hyfforddiant.
“Mae bywyd yn gwasanaethu yn golygu y gall teuluoedd gael eu gwahanu am gyfnodau hir.
“Eleni yn enwedig, bydd hynny wedi achosi gofid a straen ychwanegol wrth i’r byd fyw o dan bwysau’r coronafeirws.
“Heddiw, safwn gyda nhw hefyd.”
‘Aberth’
“Ar adeg pan fo gofyn i bawb yng Nghymru wneud aberth, cofiwn y cenedlaethau a ddaeth cyn ni a wnaeth aberth i ni gael byw ein bywydau yn y ffordd rydyn ni’n ei wneud heddiw,” meddai.
“Cofiwn hefyd eu hymrwymiad i’r achos mawr ar y cyd.
“Mae’r rhain yn amserau anodd i ni i gyd.
“Mae’r coronafeirws yn gysgod hir dros ein bywydau ni i gyd; a neb mwy na’r rhai sydd wedi colli anwyliaid eleni.
“Wrth i ni gofio pawb a wasanaethodd ac a wnaeth yr aberth eithaf, gadewch i ni hefyd fyfyrio ar yr aberth enfawr a wnaed ac sy’n parhau i gael ei gwneud gan gynifer o bobol ledled Cymru, wrth i ni weithio gyda’n gilydd i gadw Cymru’n ddiogel.”
‘Natur fregus bywyd’
Yn y cyfamser, mae Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, hefyd wedi cyhoeddi neges Sul y Cofio.
“Mae Sul y Cofio bob amser yn ddigwyddiad ingol ac eleni, bydd nifer ohonom wedi cael ein hatgoffa o natur fregus bywyd yn fwy nag erioed,” meddai.
“Fel cenedl, mae’n iawn ein bod ni’n oedi i gofio’r rhai sydd wedi gwasanaethu eu cenedl a’r rhai a gollodd eu bywydau.
“Mae ein lluoedd arfog yn gwneud gwaith anhygoel yn rhai o’r llefydd mwyaf peryglus a lleiaf croesawgar y gellir eu dychmygu.
“Mawr yw ein diolchgarwch a’n parch diffuant i’r rhai sydd wedi gwasanaethu ac sy’n parhau i wasanaethu heddiw.”
Yr un yw neges Adam Price, arweinydd Plaid Cymru hefyd.
“Mae’r pandemig hwn wedi atgoffa cynifer ohonom am freuder bywyd,” meddai.
“Bydd Sul y Cofio eleni’n un arbennig o ingol.
“Fel y daethom ynghyd ar stepen y drws ar ddechrau’r pandemig i ddiolch i’r rhai a frwydrodd i’n cadw ni’n ddiogel rhag niwed y feirws, bydd nifer ohonom yn dod ynghyd ar Sul y Cofio i gofio ac i ddangos cefnogaeth i’r rhai sydd wedi brwydro mewn rhyfeloedd.
“Mae sefyll ar stepen drws ein cartefi’n ffordd briodol o ddangos parch ac aros yn ddiogel yn 2020, ac efallai bydd yr amgylchiadau heriol yn ei gwneud hi’n fwy ingol.
“Mewn undod, byddwn yn talu teyrnged i gyn-filwyr rhyfel, y rhai sy’n gwasanaethu’r lluoedd arfog ar hyn o bryd, ac i gofio am y rhai sydd wedi dioddef yn sgil gwrthdaro.
“Dylai’r Cofio eleni gynnig cyfle am fyfyrio pruddglwyfus am y rhai a ddioddefodd ac a fu farw mewn rhyfeloedd trwy gydol ein hanes, wrth i ni anelu am ddyfodol o heddwch a llewyrch.”
‘Cofio’n dawel’
Mae heddiw’n gyfle i gofio’n dawel, yn ôl Paul Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig.
“Bydd gan nifer o bobol yma yng Nghymru eu hatgofion eu hunain, boed yn berthnasau aeth i ffwrdd i gymryd rhan, neu hyd yn oed eu profiadau eu hunain yn y gwrthdaro, ac er na fydd ein gorymdeithiau a gwasanaethau Cofio’n cael eu cynnal fel o’r blaen, mae’n cynnig y cyfle i ni fyfyrio’n dawel ac yn unigol,” meddai.
“Sut bynag rydych chi’n bwriadu nodi’r diwrnod yn ystod blwyddyn pan wnaethon ni i gyd aberth, rhaid i ni beidio ag anghofio bod nifer o’n lluoedd arfog wedi gwneud aberth hyd yn oed yn fwy dros ein gwlad.
“Mae nifer wedi marw, mae nifer wedi dioddef anafiadau corfforol difrifol, ac mae nifer yn dioddef creithiau emosiynol a seicolegol nad oes modd eu gweld.”