Mae Joe Biden wedi addo bod yn “Arlywydd i bob Americanwr” gan ddweud ei bod yn “anrhydedd” cael ei ethol.

Ar ôl cael ei gyhoeddi’n enillydd yn Pennsylvania, doedd dim modd i Donald Trump ddal yr ymgeisydd Democrataidd.

Ar ôl hawlio’r fuddugoliaeth, dywedodd y darpar arlywydd ei bod yn bryd “uno” a “iacháu” yr Unol Daleithiau.

Mae disgwyl i Joe Biden annerch y genedl ymhen rhai oriau.

Neges ar Twitter

“America, mae’n anrhydedd i fi eich bod chi wedi fy newis i i arwain ein gwlad wych,” meddai mewn datganiad ar Twitter.

“Bydd y gwaith o’n blaenau yn galed, ond dw i’n addo hyn i chi: Bydda i’n Arlywydd i bob Americanwr – p’un a wnaethoch chi bleidleisio drosof fi neu beidio.

“Byddaf yn cadw’r ffydd rydych chi wedi’i ddangos ynof fi.”

Datganiad

Mae Joe Biden hefyd wedi cyhoeddi datganiad.

“Mae’n anrhydedd a dw i’n ostyngedig yn sgil yr ymddiriedaeth mae pobol America wedi dangos ynof fi ac yn y darpar ddirprwy arlywydd Harris,” meddai.

“Yn wyneb rhwystrau di-gynsail, fe wnaeth nifer fwy nag erioed o Americanwyr bleidleisio.

“Mae’n profi unwaith eto fod democratiaeth yn curo’n ddwfn yng nghalon America.

“Gyda’r ymgyrch ar ben, mae’n bryd rhoi’r dicter a’r rhethreg llym y tu ôl i ni a dod ynghyd fel cenedl.

“Mae’n bryd i America uno. A iacháu.

“Ni yw Unol Daleithiau America. A does dim byd na allwn ni mo’i wneud, os gwnawn ni fe gyda’n gilydd.”

Llongyfarchiadau

Mae’r cyn-Arlywydd Barack Obama a’r cyn-ymgeisydd Democrataidd Hillary Clinton ymhlith y rhai sydd wedi llongyfarch Joe Biden.

Dywedodd Obama na allai “fod yn fwy balch” o’i gyn-ddirprwy ac o Kamala Harris, gan ddweud y byddan nhw wedi cipio “buddugoliaeth hanesyddol a phendant” pan fydd yr holl bleidleisiau wedi cael eu cyfri.

“Rydyn ni’n ffodus fod gan Joe yr hyn mae’n ei gymryd i fod yn arlywydd a’i fod e eisoes yn ei gario’i hun yn y fath fodd,” meddai.

“Oherwydd pan fydd e’n cerdded i mewn i’r Tŷ Gwyn ym mis Ionawr, bydd e’n wynebu cyfres o heriau eithriadol nad yw’r un arlywydd arall wedi’u hwynebu – pandemig yn byrlymu, economi a system gyfiawnder nad ydyn nhw’n gydradd, democratiaeth sydd yn y fantol a hinsawdd sydd mewn perygl.

“Dw i’n gwybod y bydd e’n gwneud y gwaith er lles pob Americanwr wrth galon hynny, p’un a gafodd e eu pleidlais neu beidio.”