Mae Mark Drakeford wedi llongyfarch Joe Biden ar ddod yn Arlywydd yr Unol Daleithiau.

Daeth y cyhoeddiad heddiw (dydd Sadwrn, Tachwedd 7) fod y Democrat wedi trechu’r arlywydd Gweriniaethol Donald Trump yn y ras sy’n dal yn destun ffrae wrth i’r arlywydd presennol wrthod derbyn y canlyniad, gan honni twyll.

“Llongyfarchiadau i @JoeBiden ar ennill etholiad arlywyddol yr UDA,” meddai.

“Ac i’r Is-lywydd @KamalaHarris fenyw gyntaf, du ac Indiaidd-Americanaidd i ddal ail swyddfa uchaf y wlad.

“Edrychaf ymlaen at weithio gyda nhw i adeiladu ar y cysylltiadau cryf rhwng Cymru a’r UDA.”