Fe fu cryn oedi wrth i’r awdurdodau barhau i gyfri’r pleidleisiau, a hynny am sawl rheswm, gan gynnwys niferoedd uchel o bleidleiswyr, cyfran uchel o bleidleisiau drwy’r post a chanlyniadau agos iawn mewn rhai ardaloedd.
Y Democrat Biden sydd ar y blaen yn Pennsylvania, Nevada a Georgia wrth iddo glosio at y targed o 270 o bleidleisau’r Coleg Etholiadol i ennill yr arlywyddiaeth.
‘Nid rhifau yn unig’
Mae Joe Biden wedi cydnabod y rhwystredigaeth i rai wrth orfod aros am y canlyniad, ond mae’n dweud bod pob pleidlais yn bwysig.
Mae’n dweud bod pob rhif “yn cynrychioli pleidleisiau a phleidleiswyr”.
Ond mae’n dweud ei fod e’n hyderus y bydd e’n sicrhau buddugoliaeth yn y pen draw.
“Mae’r rhifau’n adrodd stori glir ac argyhoeddedig: rydyn ni’n mynd i ennill y ras hon,” meddai.
Ond mae’r Democrat yn gwrthod hawlio’r fuddugoliaeth eto, gan ddweud nad oes diben mynd i “ryfel di-ben-draw, di-ddiwedd” yn erbyn y Gweriniaethwyr.
“Nid pwrpas ein gwleidyddiaeth na gwaith ein cenedl, yw gwyntyllu fflamau gwrthdaro, ond datrys problemau, sicrhau cyfiawnder a rhoi cyfle teg i bawb,” meddai.
Her gyfreithiol
Ond parhau i fynnu twyll a’i fod e wedi ennill y ras mae Donald Trump.
Ddydd Iau (Tachwedd 5), fe ddechreuodd y cyhuddiadau o dwyll etholiadol er mwyn awgrymu bod Joe Biden yn ceisio cipio grym oddi arno fe.
“Dyma achos lle maen nhw’n ceisio dwyn etholiad, maen nhw’n ceisio trefnu canlyniad etholiad,” meddai o’r llwyfan yn y Tŷ Gwyn.
Mewn negeseuon pellach ar Twitter, fe ddywedodd na ddylai “Joe Biden hawlio swyddfa’r Arlywydd ar gam”, gan ategu bod yr her gyfreithiol “ar ddechrau”.
Ac fe hawliodd e fuddugoliaeth yn y ras, gan gyfeirio at “flaenoriaeth fawr yn yr holl daleithiau hyn yn hwyr ar noson yr etholiad, a cholli’r flaenoriaeth honno’n wyrthiol wrth i’r dyddiau fynd heibio”.
Yr hyn sydd wedi newid y darlun yw fod mwy a mwy o bleidleisiau post wedi bod yn cyrraedd dros y dyddiau diwethaf, gyda’r rheolau’n nodi bod hawl eu derbyn os oes arnyn nhw farc post diwrnod yr etholiad.
Troi at y Goruchaf Lys
Wrth i’r amser fynd yn ei flaen, mae’n ymddangos bod Donald Trump yn fwyfwy penderfynol o droi at y Goruchaf Lys i ddadlau ei achos.
Ond mae ei feirniaid yn rhybuddio nad oes diben gwneud hynny, ac y bydd yn wynebu cryn her.
Bu’n rhaid i’r Goruchaf Lys farnu yn etholiad arlywyddol 2000 pan gafodd Al Gore ei drechu gan George Bush, a Bush ei hun oedd yn ceisio atal ei wrthwynebydd rhag ei ddal.
Ond y tro hwn, yr Arlywydd sydd ar ei hôl hi.
Y tebygolrwydd yw y byddai unrhyw her gan Donald Trump yn canolbwyntio ar y taleithiau lle mae’r canlyniadau’n agos, ond mae’n debygol y byddai hynny’n golygu codi amheuon am ganlyniadau mwy na dwy dalaith.
Mae lle i gredu na fyddai’r Goruchaf Lys yn awyddus i ymyrryd yn yr etholiad oherwydd eu bod nhw eisiau aros yn niwtral mewn materion gwleidyddol.
Mae un achos eisoes wedi cyrraedd y Goruchaf Lys, ar ôl i’r Gweriniaethwyr wneud cais i atal pleidleisiau oedd wedi cyrraedd ar ôl diwrnod yr etholiad rhag cael eu cyfri yn Pennsylvania, un o’r taleithiau allweddol.
Ond dydy’r canlyniad hwnnw ddim bellach yn gwbl dyngedfennol i obeithion Donald Trump o sicrhau ail dymor wrth y llyw, er bod y cyfri wedi gorfod dod i ben am y tro er mwyn sicrhau bod swyddogion etholiadol yn cydymffurfio â’r rheolau wrth gyfri.
Mae criw Donald Trump eisoes wedi ennill yr hawl yn Philadelphia i swyddogion fynd gam yn nes at y rhai sy’n cyfri’r pleidleisiau, ond cafodd ceisiadau tebyg yn Georgia a Michigan eu gwrthod.
Mae tîm Joe Biden yn mynnu bod cyhuddiadau Donald Trump yn gwbl ddi-sail, ac mae’n ymddangos yn fwyfwy tebygol y byddai’r llysoedd yn cytuno â nhw.