Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod cyfyngiadau llymach ar bobol sy’n teithio o Ddenmarc ar ôl i SARS-Cov-2 gael ei ddarganfod ar ffermydd mincod yn y wlad.

Fe ddaeth y cyfyngiadau newydd i rym am 4 o’r gloch fore heddiw (dydd Sadwrn, Tachwedd 7).

Bydd yn rhaid i unrhyw unigolion sy’n cyrraedd o’r wlad, a’u teuluoedd, hunanynysu am 14 diwrnod.

Daw’r cyfyngiadau newydd i rym wrth i Lywodraeth Prydain hefyd gyflwyno pwerau mewnfudo, sy’n atal unrhyw un nad ydyn nhw’n drigolion neu’n breswyliaid yng ngwledydd Prydain neu unrhyw un sydd wedi teithio trwy Ddenmarc dros y 14 diwrnod diwethaf rhag dod i wledydd Prydain.

‘Rhagofal’

“Mae hwn yn fesur rhagofal yn seiliedig ar dystiolaeth gynnar gan Awdurdodau Iechyd Denmarc,” meddai Vaughan Gething.

“Trwy gymryd camau pellach, cau coridorau teithio a gofyn bod unigolion a’u haelwydydd yn hunanynysu, rydym yn anelu i atal risg i Gymru a’r Deyrnas Unedig yn sgil y straen newydd yma.

“Bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru’n cysylltu â thrigolion Cymreig sydd wedi bod yn Nenmarc dros y 14 diwrnod diwethaf i egluro y byddwn yn gofyn iddyn nhw a’u haelwydydd hunanynysu fel rhagofal ychwanegol.

“Mae’r mesurau hyn yn cael eu cyflwyno â diogelwch y cyhoeddus mewn golwg.

“Dyddiau cynnar yw’r rhain ac mae angen cymryd gofal ychwanegol wrth i ni ddysgu mwy am y sefyllfa hon sy’n datblygu.”