Mae Trafnidiaeth Cymru yn atgoffa pobol na fydd modd teithio rhwng Cymru a Lloegr heb reswm dilys ar ôl i’r cyfnod clo dros dro ddod i ben yng Nghymru ddydd Llun (Tachwedd 9).

Ond bydd pobol yn cael teithio heb gyfyngiadau yng Nghymru.

Ymhlith y rhesymau derbyniol am groesi’r ffin mae gwaith, addysg, apwyntiad meddygol a rhesymau cyfreithiol neu dosturiol.

Mae’r cyfyngiadau hefyd yn golygu nad oes modd croesi’r ffin i Gymru oni bai bod un o’r eithriadau yn Lloegr yn berthnasol.

‘Neges glir i deithwyr’

“Wrth i’r newidiadau i gyfyngiadau cenedlaethol ddod i rym yng Nghymru a Lloegr, rydym am wneud yn siŵr bod neges glir i deithwyr sy’n defnyddio pob math o drafnidiaeth,” meddai James Price, Prif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru.

“Dim ond gydag esgus rhesymol y caniateir teithio rhwng Cymru a Lloegr.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn glir iawn nad yw hyn yn cynnwys pethau fel ymweld â chanolfannau lletygarwch neu siopau.

“Unwaith eto, hoffem ddiolch i’r cyhoedd am eu dealltwriaeth, mae’r mwyafrif llethol o bobl wedi bod yn glynu wrth y rheolau ac rydym yn gobeithio y bydd hyn yn parhau pan ddaw’r newidiadau i rym yng Nghymru o ddydd Llun ymlaen.”