Mae’r chwilio am gasglwr cocos sydd ar goll o ardal Llanelli wedi cael ei ddirwyn i ben.

Does neb wedi gweld Darren Rees, 43 oed o Lanelli, ers dydd Mawrth (Tachwedd 3).

Fe fu’r gwasanaethau brys yn chwilio amdano yn afon Llwchwr.

Maen nhw’n dweud y bydd Gwylwyr y Glannau yn parhau i edrych o dro i dro, a bydd yr ymchwiliad i’w ddiflaniad hefyd yn parhau.

Maen nhw’n dweud eu bod nhw wedi “gwneud popeth o fewn eu gallu” i ddod o hyd iddo, a bod ei deulu wedi cael gwybod am y penderfyniad.

Mae’r awdurdodau wedi talu teyrnged i’r gymuned leol a chasglwyr cocos eraill am eu “nerth a penderfyniad arwyddocaol”, gan ddweud y dylen nhw “ymfalchïo yn eu hysbryd gymunedol”.