Mae ap Cymraeg siop.io yn cael ei dreialu ym Môn a Gwynedd er mwyn herio Amazon a hybu busnesau lleol.

Yn ystod y cyfnod clo eleni, comisiynodd Arloesi Gwynedd Wledig (AGW) ac Arloesi Môn ymchwil a darganfod bod pandemig y coronafeirws wedi arwain at gwsmeriaid yn newid y ffordd y maen nhw’n siopa.

A dangosodd yr ymchwil bod cynnydd dramatig mewn siopa ar-lein wedi bod yn ystod y pandemig.

Yn ddiweddar dywedodd Sainsbury’s, ail archfarchnad fwyaf Prydain, fod 40% o’i werthiannau bellach ar-lein – o’i gymharu â 19% flwyddyn yn ôl.

O ganlyniad i’r ymchwil, penderfynodd AGW ac Arloesi Môn bod angen ap/gwefan a fyddai’n galluogi busnesau bwyd a diod lleol i werthu eu cynnyrch ar-lein.

Mae Siop.io yn ap a ddatblygwyd gan Kodergarten, tîm o ddatblygwyr o Gymru.

“Gyda gwefan / ap Siop.io, gall cwsmeriaid nodi eu cod post yn y system, a fydd wedyn yn rhestru’r holl fusnesau sy’n gwasanaethu yn eu hardal,” meddai Paul Sandham o Kodergarten.

“Yna mae cwsmeriaid yn dewis y cynnyrch maen nhw eu heisiau ac yn talu amdanynt ar-lein ac mae ganddyn nhw’r opsiwn o ddanfon y cynnyrch i’w cartref neu ei gasglu’n uniongyrchol o’r busnes.”

Treial

Mae AGW ac Arloesi Môn yn chwilio am 15 busnes yng Ngwynedd a 15 ar Ynys Môn i gofrestru a threialu’r ap hwn.

Maen nhw’n yn chwilio am fusnesau sy’n cwrdd â’r meini prawf canlynol:

  • Busnes Bwyd a Diod Annibynnol.
  • Wedi’i leoli yng Ngwynedd neu Ynys Môn.
  • Ddim gyda system werthu ar-lein ar hyn o bryd neu hefo un sydd yn annigonol.

“Byddwn yn gweithio gyda’r busnesau ac yn eu cefnogi wrth iddynt ddechrau defnyddio’r ap e.e. eu helpu i uwchlwytho eu cynnyrch, egluro’r broses dalu,” meddai Rhys Gwilym, Swyddog Prosiect yn AGW.

“Gwelsom gymaint o gefnogaeth i fusnesau lleol yn ystod y cyfnod clo cyntaf, rydym yn gobeithio y bydd yr ap hwn yn helpu pobl i barhau â’r gefnogaeth honno.”