Mae ymchwil yn dangos y byddai mwyafrif o bobol yn dewis gwneud gwaith tŷ yn hytrach na charu.

Yn ôl yr astudiaeth wyddonol gan HeatingForce mae cwblhau tasgau a bod yn drefnus yn rhyddhau’r un pleser a boddhad y mae pobol yn ei gael wrth garu.

Byddai 59% o’r cyfranogwyr yn dewis gwaith tŷ dros garu.

Tra byddai 61% yn dewis gwneud gwaith tŷ yn hytrach na gwylio’r teledu, a 49% yn dewis glanhau tros siopa.

Mae’r ymchwil hefyd yn dangos mae’r gwaith tŷ mae pobol yn ei fwynhau leihaf yw glanhau’r toiled, tra mai gwneud y gwely sydd fwyaf poblogaidd.