Mae Cyngor Gwynedd yn ymgynghori ar gynnig i adleoli Ysgol Treferthyr yng Nghricieth i safle newydd ym mis Medi 2023.

Daw hyn ar ôl i Gabinet y Cyngor gymeradwyo cynnal ymgynghoriad ar y cynnig ar Hydref 13, 2020.

Ac mae’r cyfnod ymgynghori ar y cynnig i adeiladu ysgol newydd yn dilyn cyfres o gyfarfodydd ar lefel leol gyda chynrychiolwyr o Ysgol Treferthyr.

Byddai’r cynllun yn gweld buddsoddiad o dros £5 miliwn i adleoli’r ysgol i’r gorllewin o’r dref, gan gynyddu capasiti’r ysgol i 150 o ddisgyblion.

Bydd 65% o gost yr ysgol newydd yn cael ei ariannu o Raglen Ysgolion 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru, gyda’r gweddill yn dod gan Gyngor Gwynedd.

Mae arolygon o’r adeilad presennol wedi nodi nifer o ddiffygion sylweddol sy’n golygu bod yr ysgol y tu hwnt i’w hatgyweirio, a bod angen ysgol newydd.

“Rydym yn awyddus i sicrhau bod plant mewn cymunedau ledled Gwynedd efo mynediad i’r adnoddau addysgiadol gorau phosib,” meddai’r Cynghorydd Cemlyn Rees Williams, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Addysg.

“Mae adeilad presennol Ysgol Treferthyr wedi gweld dyddiau gwell a byddai’n aneconomaidd i barhau i geisio cynnal a chadw’r adeiladau ar gyfer y dyfodol.

“Ein nod yw adeiladu cartref newydd i’r ysgol a fydd yn darparu cyfleusterau modern i blant Cricieth a fydd yn eu galluogi i gyrraedd eu llawn botensial.

“Rydym eisiau clywed barn y gymuned leol ynglŷn â’r cynigion cychwynnol. Rydym yn edrych ymlaen at glywed barn disgyblion, rhieni, staff a’r gymuned ar y cynnig i adeiladu’r ysgol newydd ar gyfer 150 o ddisgyblion ar y safle newydd.”