Mae Cadeirydd YesCymru, Siôn Jobbins, wedi dweud wrth golwg360 y dylai llywodraeth nesaf Cymru gael strategaeth annibyniaeth os bydd yr Alban yn gadael y Deyrnas Unedig.
Daw hyn wrth i’r mudiad annibyniaeth gyhoeddi fod ganddo bellach 14,000 o aelodau – cynnydd o 5,000 mewn wythnos.
“Rhaid i bobol ystyried bod etholiad Cymru’n cael ei gynnal ar yr un diwrnod ag etholiad yr Alban, lle mae’r SNP yn debygol o ennill ac mae 56% o’r cyhoedd eisoes o blaid annibyniaeth,” meddai Siôn Jobbins wrth golwg360.
“Mae’n bwysig bod gan y llywodraeth newydd o leiaf opsiwn am annibyniaeth, a sicrhau bod gan Senedd Cymru’r hawl i ddewis ein dyfodol
“Mae pethau’n symud yn gyflym, a’r peth gwaethaf fyddai pe tai dim paratoadau na strategaeth wrth i’r Alban hawlio annibyniaeth.
“Os oes gan y Llywodraeth bolisi dros newid hinsawdd, rhywbeth sy’n digwydd yn y dyfodol, mae yn rhaid cael strategaeth os yw’r Alban yn gadael. Fyddan ni methu esgus bod o ddim yn digwydd.
“Rhaid i Lafur a’r pleidiau eraill ddweud beth fyddan nhw’n ei wneud os yw’r Alban yn cael annibyniaeth, ac mae’n rhaid paratoi neu bydd Cymru’n cael ei ymgorffori mewn i Loegr.”
Ymuno â YesCymru “ddim yn rhywbeth exotic”
Wrth drafod ffigyrau aelodaeth ddiweddaraf YesCymru, dywedodd Siôn Jobbins: “Drwy gydol y flwyddyn mae pobol wedi bod yn ailedrych ar y ffordd orau i lywodraethu Cymru, ac wedi dod i’r casgliad bod Cymru’n well na San Steffan am wneud hynny.
“Pan gyhoeddodd Cymru glo dros dro, dechreuodd y Torïaid chwarae gemau, a daeth yr atgasedd sy’n bodoli tuag at Gymru i’r golwg.
“Ac yna bu’n rhaid i Loegr gyhoeddi clo, ac roedd yn gwbl amlwg bod hynny yn mynd i orfod digwydd.
“Felly unwaith eto, cymerodd Cymru gam call, tra bod San Steffan wedi cymryd cam gwael.
“Felly dw i’n meddwl bod mwy o bobol yn ymuno (â YesCymru) ar sail hynny, ac wrth i’r ffigyrau godi mae mwy o bobol yn adnabod pobol sydd wedi ymuno – dyw ymuno â YesCymru ddim yn rhywbeth exotic bellach.
“Mae’n rhywbeth mae pobol gyffredin yn ei wneud, ac yn rhywbeth mae trawstoriad eang o bobol sydd â gwahanol safbwyntiau a chefndiroedd yn ei wneud.
“Diffyg parch at anghenion Cymru”
Mae Siôn Jobbins hefyd o’r farn bod “diffyg parch tuag at anghenion Cymru” gan San Steffan wedi cyfrannu at dwf enfawr aelodaeth YesCymru.
Ond mae’n cydnabod bod “llawer o bobol yn dal i fod yn gyfforddus â’r syniad o Brydeindod.”
“Mae nifer o bobol yn hoff o’r diwylliant… cerddoriaeth a chomedi Prydeinig,” meddai.
“Ond does dim angen San Steffan i fwynhau hynny, a does dim angen San Steffan i gefnogi Manchester United neu Lerpwl.
“A’r agwedd sydd i’w gael gan San Steffan yw bod Cymru yn wlad fach ddibwys, ac mae yno ddiffyg parch tuag at anghenion Cymru.
“Dw i’n meddwl bod pobol yng Nghymru yn cael llond bol ar yr agwedd yna.”