Mae Joe Biden ar drothwy dod yn Arlywydd yr Unol Daleithiau.

Mae talaith Pennsylvania bellach wedi troi’n las ac mae 95% o bleidleisiau wedi eu cyfri yno.

Mae gan Pennsylvania 20 o bleidleisiau’r coleg etholiadol a fyddai’n mynd a Joe Bidden dros y trothwy o 270 o bleidleisiau sydd eu hangen arno i ennill yr etholiad.

Mae’r Democratiaid eisoes wedi derbyn mwy na 73 miliwn o bleidleisiau – y mwyaf yn hanes yr Unol Daleithiau.

Gan fod rhai pleidleisiau eto i’w cyfri, mae sianel newyddion CNN eto i alw’r canlyniad yn swyddogol.

Mae adroddiadau y gallai gymryd sawl diwrnod arall i’r holl gyfri ddod i ben mewn rhai taleithiau, ac i ganiatáu i enillydd clir ddod i’r amlwg.

Yn gynharach heddiw aeth y Democratiaid ar y blaen yn nhalaith Georgia am y tro cyntaf – does dim modd i Donald Trump ennill yr etholiad heb gefnogaeth y dalaith honno.

Yn y cyfamser mae Donald Trump yn parhau i gwyno am “dwyll”.

Mae wedi ceisio tanseilio hyder y cyhoedd yn etholiad yr Unol Daleithiau, gan wneud cyhuddiadau di-sail am ddilysrwydd y canlyniadau, a hynny tra bod pleidleisiau’n dal i gael eu cyfrif ledled y wlad.