Unwaith eto, mae Donald Trump wedi ceisio tanseilio hyder yn etholiad yr Unol Daleithiau, gan wneud cyhuddiadau di-sail o ystafell y wasg yn y Tŷ Gwyn am ddilysrwydd y canlyniadau yn ei ras yn erbyn Joe Biden, a hynny tra bod pleidleisiau’n dal i gael eu cyfrif ledled y wlad.
Oriau’n gynharach, ceisiodd Mr Biden sicrhau pobl y gellid ymddiried yn y broses, gan annog Americaniaid i fod yn amyneddgar.
Mae Mr Trump wedi mynd ar drywydd opsiynau cyfreithiol heb fawr o lwyddiant, gan wneud ymdrechion cynyddol i hau amheuaeth am ganlyniad y ras.
Gyda’i lwybr at fuddugoliaeth bellach yn gul, gwnaeth Mr Trump honiadau, heb dystiolaeth, o gamymddwyn etholiadol mewn cyfres o drydariadau, a mynnodd fod yn rhaid i’r cyfri ddod i ben.
Yn ei ymddangosiad cyhoeddus cyntaf ers diwedd noson yr etholiad, ymhelaethodd ar ei gyhuddiadau di-sail o gynllwyn etholiadol – a hynny gan fanteisio ar lwyfan arlywyddol y Tŷ Gwyn.
“Mae hwn yn achos o geisio dwyn etholiad, maent yn ceisio rigio’r etholiad,” meddai Mr Trump am y Democratiaid, gan eu cyhuddo o lygredd gwleidyddol, a hynny heb ddarparu unrhyw dystiolaeth.
Gwnaeth honiadau tebyg am uniondeb yr etholiad yn ystod ymgyrch 2016 – gan stopio dim ond pan enillodd.
Y tro hwn, yr oedd yn siarad nid fel ymgeisydd, ond fel Arlywydd yr Unol Daleithiau.
“Mae’r broses yn gweithio”
Neges wahanol iawn oedd gan Mr Biden, gan siarad yn gyflym â gohebwyr i ddatgan bod yn rhaid cyfrif pob pleidlais: “Rwy’n gofyn i bawb aros yn ddigyffro. Mae’r broses yn gweithio,” meddai Mr Biden.
“Ewyllys y pleidleiswyr yw hyn. Nid oes neb arall yn dewis Arlywydd Unol Daleithiau America.”
Mae buddugoliaethau Mr Biden yn Michigan a Wisconsin wedi’i roi mewn sefyllfa gref, ond nid oedd Mr Trump yn dangos unrhyw arwydd i roi’r gorau iddi.
Gallai gymryd cryn amser eto i gyfrif y bleidlais ac i enillydd clir ddod i’r amlwg.
Fodd bynnag, gyda miliynau o bleidleisiau eto i’w cyfri, roedd Mr Biden eisoes wedi cael mwy na 72 miliwn o bleidleisiau – y mwyaf mewn hanes.
Mae Mr Trump wedi mynnu ailgfyri yn Wisconsin ac wedi cymryd camau cyfreithiol yn Pennsylvania, Michigan a Georgia.
Yn hanesyddol, mae ailgyfrif yn Wisconsin wedi newid y bleidlais o ychydig gannoedd o bleidleisiau yn unig. Mae Mr Biden yn ennill o fwy nag 20,000 o bleidleisiau gyda bron i 3.3 miliwn wedi’u cyfri.
Diystyrodd barnwyr yn Georgia a Michigan gamau cyfreithiol Trump yno ddydd Iau.
Mae Mr Biden eisoes wedi ennill Michigan a Wisconsin. Mae Georgia a Pennsylvania, ynghyd â Nevada a Gogledd Carolina, yn dynn – gyda phleidleisiau’n dal i gael eu cyfri.
Dywedodd ymgyrch Trump ei bod yn hyderus y byddai’r Arlywydd yn y pen draw yn cael buddugoliaeth yn Arizona, Mae Associated Press wedi datgan mai Mr Biden yw’r enillydd yn Arizona.
Nid oedd yr is-arlywydd Mike Pence wrth ochr Trump yn ei gynhadledd i’r wasg neithiwr, absenoldeb a ddehonglwyd ar unwaith gan rai fel rhywbeth sy’n awgrymu lefel o anghytundeb rhwng y ddau am y safiad y mae Mr Trump yn ei gymryd.
Fodd bynnag, trydarodd Mr Pence yn ddiweddarach ei fod yn sefyll gyda’r Arlywydd wrth alw am gyfrif pob pleidlais “gyfreithiol”.
Ond roedd ffigurau eraill o blith y Republicans yn feirniadol o Mr Trump. Beirniadodd larry Hogan, llywodraethwr Maryland, yr arlywydd gan ddweud nad oedd “unrhyw amddiffyniad” i’w sylwadau a’i fod yn “tanseilio” proses etholiadol America, ac nad oedd neb yn bwysicach na democratiaeth.