Bydd lorïau sy’n cyrraedd porthladd Caergybi yn gorfod teithio i Loegr i gael eu gwirio yn y cyfnod ar ôl Brexit

Mae adroddiadau bydd lorïau yn cael eu cyfeirio i Birmingham a Warrington er mwyn i’r gyrwyr ddangos eu papurau perthnasol.

Mae’r ymdrechion i ddod o hyd i safle ym Môn wedi bod yn aflwyddiannus hyd yma.

Er bod y rhan fwyaf o draffig porthladdoedd yn teithio drwy’r lleoliadau yma, mi fydd yn golygu bydd rhaid i rai lorïau sy’n cyrraedd Caergybi deithio i Loegr cyn teithio’n ôl i Gymru.

Yn ôl papur y Daily Post mesur “dros dro” – am oddeutu dwy flynedd – yw’r safleoedd yn Birmingham a Warrington.

Mae’n debyg fod dau safle o fewn 30 munud i borthladd Caergybi yn cael eu hystyried.

Codwyd y mater yn ystod Pwyllgor Materion Cymreig ddydd Iau.

Gofynnodd AS Ynys Môn Virginia Crosbie i Ysgrifennydd Cymru Simon Hart a oedd datblygiadau wedi bod mewn sicrhau safle addas ar yr ynys.

Dywedodd Simon Hart y bydd yn cynnal hyd at bedwar cyfarfod yr wythnos er mwyn sicrhau bod y risg posibl o darfu yn cael ei leihau.

Ychwanegodd ei fod yn hyderus bydd bob dim yn ei le erbyn mis Gorffennaf – pan fydd angen gwirio holl nwyddau.

Mae trafodaethau ynghylch cytundeb masnach ar ôl Brexit rhwng y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd yn parhau.