Mae ffermwyr Cymru yn ‘or-ddibynnol ar allforio i’r Undeb Ewropeaidd’, meddai ysgrifennydd masnach ryngwladol Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
Dywedodd Liz Truss wrth gynhadledd NFU Cymru y byddai’r wlad yn “ffynnu” gyda chytundeb masnach gyda’r Undeb Ewropeaidd, neu heb gytundeb masnach.
Gallai Brexit heb gytundeb ddigwydd os nad yw’r Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd yn dod i gytundeb cyn y flwyddyn newydd.
Mae 92% o allforion cig oen Cymru yn cael eu gwerthu yn Ewrop.
Awgrymodd yr ysgrifennydd masnach ryngwladol fod galw cynyddol am gig o ansawdd uchel ledled Asia a bod Cymru mewn sefyllfa dda i gyflenwi’r farchnad honno.
Mynnodd hefyd fod y llywodraeth am gael “bargen dda gyda’r Undeb Ewropeaidd.”
“O ran cynnyrch amaethyddol, mae’r Undeb Ewropeaidd yn allforio deirgwaith cymaint i ni ag a wnawn iddyn nhw,” meddai.
Marchnad Ewrop o ‘bwysigrwydd mawr’
Pwysleisiodd John Davies, llywydd undeb NFU Cymru, yn ystod y gynhadledd fod y farchnad Ewropeaidd o “bwysigrwydd mawr” i amaethyddiaeth yng Nghymru.
“Mae cymaint i’w wneud mewn ychydig iawn o amser os yw Llywodraeth y Deyrnas Unedig am sicrhau cytundeb masnach ffafriol gyda’r Undeb Ewropeaidd,” meddai.
“Ni allwn fforddio wynebu tariffau gwael, hyd yn oed am gyfnod byr, ar ein hallforion amaethyddol.”