Mae sianel newyddion CNN yn adrodd fod Joe Biden ar y blaen yn nhalaith Georgia.

Yn ôl y darlledwr mae 99% o bleidleisiau wedi eu cyfri a’r Democratiaid sydd ar y blaen am y tro cyntaf, a hynny o drwch blewyn.

Fydd yr Arlywydd Donald Trump ddim yn gallu ennill yr etholiad heb gefnogaeth y dalaith.

Mae gan Georgia 16 o bleidleisiau etholiadol.

Mae’r ffigyrau diweddaraf yn dangos fod Joe Biden ar y blaen o 917 pleidlais yn Georgia.

Yn y cyfamser mae Donald Trump yn parhau i gwyno am “dwyll”.

Mae wedi ceisio tanseilio hyder yn etholiad yr Unol Daleithiau, gan wneud cyhuddiadau di-sail am ddilysrwydd y canlyniadau, a hynny tra bod pleidleisiau’n dal i gael eu cyfrif ledled y wlad.