Mae Aelod Seneddol Ynys Môn wedi dweud bod Llywodraeth Prydain wedi darparu £40m i fusnesau ar yr ynys yn ystod pandemig y coronafeirws.

Yn trafod y swm o arian yn Nhŷ’r Cyffredin, bu Virginia Crosbie yn honni bod cynllun gan y Llywodraeth, ynghyd â’r Bounce Back Loans, wedi cyfrannu bron i £40 miliwn i ymhell dros 1,000 o fusnesau ar draws yr ynys.

Yn ei haraith dywedodd Virginia Crosbie:

“Mae eleni wedi dod â chaledi mawr a heriau sylweddol i lawer o bobol ledled y Deyrnas Unedig.

“Beth bynnag fo’n hamgylchiadau unigol, bydd pob un ohonom wedi cael adegau yn ystod y naw mis diwethaf pan rydym wedi ei chael hi’n anodd bod yn optimistaidd am ddyfodol mwy disglair.

“Fodd bynnag, er gwaethaf yr heriau y mae’r genedl wedi’u hwynebu, nid yw’r Llywodraeth hon wedi rhoi’r ffidil yn y to.”

100 o swyddi newydd i’r ynys

Yn ei haraith fe gyfeiriodd Virginia Crosbie yn benodol at gwmni Parciau Eco Orthios ar yr ynys, sydd wedi gwneud cais i’r Llywodraeth am fenthyciadau i ehangu eu gweithrediadau i gynhyrchu trydan o wastraff planhigion a fewnforiwyd.

Mae’n debyg y bydd y benthyciad hwn yn galluogi’r cwmni i ehangu a chreu dros 100 o swyddi newydd yn y flwyddyn newydd.

Dywedodd Swyddog Gweithredol y cwmni, Sean McCormick:

“Mae eleni wedi bod yn her i fusnesau fel ein cwmni ni ar Ynys Môn. Ond rydym yn gwerthfawrogi’r gefnogaeth sydd ar gael gan Lywodraeth Prydain.

“Bydd yn helpu i gynhyrchu a chadw swyddi ac yn darparu sbardun ar gyfer y dyfodol.”