Ymosodwyd ar ddynion tân wrth iddyn nhw fynd i reoli coelcerthi peryglus neithiwr (dydd Iau, Tachwedd 5), meddai llefarydd y gwasanaeth tân.

Fe gafodd Nosweithiau Tân Gwyllt eu canslo eleni oherwydd cyfyngiadau’r coronafeirws, ond er hynny dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru iddi fod wedi bod yn “noson eithriadol o brysur”.

Deliodd y gwasanaeth â mwy na 40 o goelcerthi ar hyd y de, a bu pedwar ymosodiad gwahanol ar griwiau tân, ond chafodd neb ei anafu.

“Ffiaidd”

Targedwyd swyddogion yr heddlu a oedd yn mynychu digwyddiadau hefyd.

“Mae’r ymddygiad hwn yn gwbl ffiaidd tra bod swyddogion yn gweithio’n eithriadol o galed i leihau effaith coronafeirws ar ein cymuned! Byddwn yn ceisio adnabod y lleiafrif bach hwn a’u rhoi gerbron y llysoedd!” meddai Prif Arolygydd Tom Harding ar Trydar.

Cafodd plentyn 14 oed ei arestio yng Nghaerdydd am “saethu tân gwyllt at siop gan achosi difrodi”, meddai Heddlu De Cymru.