Fe gafodd lleidr yn Llanelli ei arestio o fewn saith munud i’w drosedd ddiweddara’ gael ei riportio i’r heddlu.
Roedd Scott Turnbull, 33 oed, wedi torri fewn i dŷ yn y dref ar Fedi 30, a hynny tra’r oedd y perchennog lan lofft yn cysgu yn ei gwely.
Fe gafodd y ddynes ei deffro gan y lleidr toreithiog, a chodi o’i gwely a dod wyneb yn wyneb gyda Scott Turnbull wrth iddo ddod allan o un o’r stafelloedd gwely.
Fe afaelodd y lleidr yn ysgwyddau’r ddynes a’i symud i’r ochr er mwyn gallu dianc.
Fe aeth y ddynes i lawr y grisiau a gweld bod eiddo iddi wedi ei ddwyn, gan gynnwys allweddi ei char.
Fe aeth y ddynes allan a gweld Scott Turnbull yn eistedd yn ei char.
Aeth y ddynes ato a llwyddo i gael gafael ar yr allweddi, ac fe redodd y lleidr i ffwrdd.
Ffonio’r glas
Wedyn dyma’r ddynes yn ffonio’r heddlu a rhoi disgrifiad o’r dihiryn fu yn ei chartref.
Ac wrth i’r heddlu yrru i’w thŷ, fe welon nhw ddyn oedd yn debyg i’r lleidr yr oedd y ddynes wedi’i ddisgrifio.
Fe gafodd Scott Turnbull ei arestio o fewn saith munud i alwad y ddynes, ac roedd olion ei fysedd ar ei theledu.
Roedd ganddo sach yn llawn o eiddo’r ddynes hefyd.
A’r wythnos hon fe gafodd Scott Turnbull bum mlynedd o garchar yn Llys y Goron Abertawe.
“Rhaid canmol y tîm ymchwilio am gynnal eu hymholiadau yn gyflym a thrwyadl, gan olygu bod modd arestio’r un fu dan amheuaeth,” meddai’r Ditectif Sarjant Katie Cuthbertson.
“Mae Turnbull yn lleidr toreithiog wnaeth achosi i’w ddioddefwr deimlo ofn yn ei chartref ei hun, ac mae bellach wedi ei gosbi.”