Mae llefarydd Iechyd y Ceidwadwyr Cymreig wedi galw am ymestyn cyfyngiadau’r coronafeirws mewn rhai ardaloedd yng Nghymru.

Ar hyn o bryd, mae’r clo dros dro i fod i ddod i ben drwy bob rhan o Gymru ddydd Llun.

Roedd gan Ferthyr Tudful 741 o achosion ymhob 100,000 o bobol yr wythnos ddiwethaf, gan symud uwchben Oldham a Blackburn yn Swydd Gaerhirfryn fel yr ardal waethaf ym Mhrydain o ran cyfraddau corona.

A chafodd bron i draean y bobol gafodd brawf yno ganlyniad positif.

Mae Rhondda Cynon Taf a Blaenau Gwent yn nawfed a degfed o ran ardaloedd ym Mhrydain sydd â’r gyfradd achosion uchaf o’r coronafeirws.

Wrth drafod y newyddion bod siroedd yng Nghymru gyda rhai o gyfraddau coronafeirws uchaf Prydain, dywedodd Andrew RT Davies, llefarydd Iechyd y Ceidwadwyr:

“Pe bai gweinidogion Llafur yn cymhwyso eu rhesymeg a’u polisi Covid yn gyson, byddent yn ailystyried eu penderfyniad i lacio cyfyngiadau mewn ardaloedd lle mae nifer fawr o achosion, megis Merthyr Tudful, Blaenau Gwent a Rhondda Cynon Taf.

“Ddoe, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y bydd yn rhaid i unrhyw un sy’n dod yn ôl i Gymru o’r Almaen neu Sweden hunan-ynysu am 14 diwrnod, ac rydym wedi gweld gwaharddiadau teithio yn cael eu rhoi ar bobol o ardaloedd eraill ym Mhrydain sydd â chyfraddau uchel o’r coronafeirws

“Ac eto o ddydd Llun, bydd pobl yn gallu teithio i mewn ac allan o Ferthyr Tudful er mai hon yw’r sir sydd â’r gyfradd achosion gwaethaf ym Mhrydain.

“Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw am ymyrraeth yn yr ardaloedd lle mae nifer fawr o achosion yng Nghymru ac rydym yn ailadrodd yr alwad honno heddiw.”

Dylai cyfyngiadau barhau ym Merthyr Tudful “am wythnosau, neu hyd yn oed fisoedd”

Mae Haematolegydd ymgynghorol ym Mwrdd Iechyd Cwm Taf, Dr Dai Samuel, wedi dweud wrth Radio Cymru y dylai cyfyngiadau aros mewn grym ym Merthyr Tudful “am wythnosau, neu hyd yn oed fisoedd.”

Dywedodd nad oedd y mesurau presennol yn gweithio tra’r oedd “niferoedd yn parhau i godi.”

“Mae pawb wedi blino ar y cyfyngiadau, ond mae’n anodd dweud ein bod yn mynd yn ôl i’r arfer ddydd Llun pan fydd y niferoedd yn dal i godi,” meddai Dr Dai Samuel.

“Yn draddodiadol, mae lleoedd fel Merthyr a’r cymoedd yn cyd-dynnu mewn cyfnod anodd, felly rwy’n credu bod angen i bob un ohonom alw ar ein ffrindiau a’n perthnasau i ddilyn y rheolau – gwisgo masg, cadw pellter o ddau fetr a pheidio teithio i leoedd nad ydynt yn hanfodol.

“Efallai mai’r ateb yw mwy o ddirwyon a gofyn i bobl ‘ble wnaethoch chi gael Covid?’ Oherwydd ar hyn o bryd, nid yw’n gweithio.”

Safwbynt Plaid Cymru

Wrth i’r cyfnod clo ddod i ben nos Sul, mae Gweinidog Iechyd Cysgodol Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth AS yn galw am fesurau ychwanegol i helpu i gadw pobl yn ddiogel mewn ardaloedd lle ceir llawer o achosion:

“Wrth i’r clo cenedlaethol ddod i ben, bydd y rhan fwyaf o bobl yn gweld fod angen  lefel sylfaenol o gyfyngiadau Cymru gyfan am beth amser i ddod, ond gobeithio y gall hynny fod yn set gymharol isel a chynaliadwy o reolau y gallwn i gyd ddysgu byw gyda nhw.

“Ond lle mae gennym glystyrau neu ardaloedd mwy lleol o achosion arbennig o uchel, mae’n gwneud synnwyr cael set well o reolau i ostwng y gyfradd R a helpu i amddiffyn pobl yn yr ardaloedd hyn. Dylid ategu hyn gyda chymorth cymunedol ac ariannol sylweddol tan fod lefel heintiau yn ôl o dan rheolaeth.

“Mae gennym lefelau difrifol o’r feirws mewn rhai ardaloedd – mae pobl yn pryderu am hyn, a hynny’n briodol, ac mae angen i’r Llywodraeth ddweud wrthym sut y mae’n bwriadu ymateb i hynny. Llywodraeth Cymru sydd â’r data, mae’r dystiolaeth ganddynt, felly rhaid i ni weld bod data a thystiolaeth yn cael eu defnyddio’n effeithiol i gadw pobl yn ddiogel.”

 

Llywodraeth Cymru

Yn ymateb i sylwadau Andrew RT Davies, dywedodd llefarydd Llywodraeth Cymru:

“Nod cyfnod atal byr Cymru yw i arafu twf y feirws, atal y GIG rhag cael ei llethu ac achub bywydau yn y pen draw. Mae’r ffaith ein bod yn gweld y niferoedd hyn yn dangos ein bod wedi bod yn iawn i gyflwyno cyfnod atal byr pan wnaethom – yn erbyn gwrthwynebiad ffyrnig. Ni welwn effaith y cyfnod atal byr tan tua dwy i dair wythnos ar ôl iddo orffen.

“Daw set genedlaethol o fesurau i rym ddydd Llun, sydd wedi’u cynllunio i diogelu iechyd pobl a darparu cymaint o ryddid â phosibl tra mae’r feirws yn dal i gylchredeg.

“Er mwyn cadw rheolaeth ar y feirws, mae angen i bob un ohonom feddwl am ein bywydau ein hunain a sut y gallwn gadw ein teuluoedd yn ddiogel a rhoi’r gorau i feddwl am y terfyn uchaf o reolau a rheoliadau. Yn hytrach na gofyn beth y gallwn neu na allwn ei wneud, mae angen i ni ofyn i ni’n hunain beth ddylem fod yn ei wneud i gadw ein teuluoedd yn ddiogel.”