Mae’r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, wedi annog pobol i beidio gadael i’r hyn sydd wedi ei gyflawni yn ystod y clo dros dro fynd yn ofer.

Mae hefyd wedi annog pobol i adael ychydig ddyddiau rhwng gweld gwahanol bobol ar ôl y clo dros dro i arafu lledaeniad y coronafeirws.

“Er mwyn cadw ein gilydd yn ddiogel mae angen i ni leihau nifer y bobol y mae gennym gysylltiad â nhw a faint o amser rydym yn treulio gyda nhw,” meddai Vaughan Gething.

“Ni allwn fynd yn ôl i’r ffordd yr oeddem yn byw ein bywydau a gwastraffu’r holl waith caled rydym wedi gwneud.

“Rwy’n gwybod ein bod yn agosáu at y gaeaf ac mae’n oerach y tu allan, ond os gallwch chi, dylai pobl gwrdd y tu allan neu mewn man dan do cyhoeddus, lle mae mesurau mewn lle i’ch amddiffyn, fel glanhau a phellter cymdeithasol.”

Codi’r cyfyngiadau ym Merthyr a Rhondda?

Roedd gan Ferthyr Tudful 741 o achosion ymhob 100,000 o bobol yr wythnos ddiwethaf – yr ardal waethaf ym Mhrydain o ran cyfraddau corona.

Gofynnwyd i’r Gweinidog Iechyd yn ystod y gynhadledd a oedd Llywodraeth Cymru yn hapus i ardaloedd lle mae llawer o achosion yn parhau yn uchel, i agor y clo.

“Yndw, roeddem ni’n glir iawn gyda phobol pan ddechreuon ni’r clo dros dro a phryd y byddai’n dod i ben,” meddai.

“Dydw i ddim yn meddwl y gallem danseilio pa mor ddifrifol a sylweddol fyddai pe baem yn penderfynu ymestyn y clo o ddydd Llun.

“Rydyn ni wedi bod yn glir iawn bod ni eisiau set cenedlaethol o reolau sy’n gwneud e’n hawdd i bawb ddeall sut ddylwn ni i gyd bod yn byw ein bywydau.

“Er hyn, os fydd cynnydd mewn rhai ardaloedd yn parhau, byddwn ni’n barod i weithredu mesurau addas.”

Ychwanegodd fod achosion fesul bob 1000,000 yn dechrau gostwng ym Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf, ond na fydd Cymru’n gweld gostyngiad mewn achosion cyffredinol am hyd at dair wythnos ar ôl y clo dros dro.

Mae Andrew RT Davies, llefarydd Iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, wedi galw am ymestyn cyfyngiadau’r coronafeirws mewn rhai ardaloedd yng Nghymru lle mae’r achosion yn parhau’n uchel.

Bydd y clo dros dro yn dod i ben ddydd Llun, Tachwedd 9.

Mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford eisoes wedi cyhoeddi cyfres o fesurau “symlach” newydd fydd yn dod i rym bryd hynny i geisio atal lledaeniad y coronafeirws yng Nghymru.