Mae Prif Filfeddygon gwledydd Prydain yn rhybuddio pobol sy’n cadw adar i ddilyn mesurau bioddiogelwch er mwyn atal rhagor o achosion o’r ffliw adar.

Mae lefel y risg wedi codi o ‘ganolig’ i ‘uchel’ yn dilyn dau achos yn Lloegr nad ydyn nhw’n gysylltiedig â’i gilydd, ac mae adroddiadau bod ffliw adar yn lledaenu yn Ewrop.

Mae’r rhai sy’n cadw adar yn cael eu rhybuddio i beidio â dod i gysylltiad uniongyrchol nac anuniongyrchol ag adar gwyllt, ar ôl i’r lefel risg ymhlith dofednod hefyd godi o ‘isel’ i ‘ganolig’.

Y pryder yw y gall adar gwyllt sy’n hedfan i wledydd Prydain o weddill Ewrop ledaenu’r ffliw i ddofednod ac adar eraill sy’n cael eu cadw’n gaeth.

Datganiad

Yn ôl y Prif Filfeddygon, maen nhw wedi “gweithredu’n gyflym er mwyn atal lledaeniad yr afiechyd ar y ddau safle yn Lloegr ac yn parhau i fonitro’r sefyllfa’n agos”.

“Dylai’r rhai sy’n cadw adar barhau’n wyliadwrus am unrhyw arwyddion o afiechyd ac adrodd am achosion tebygol ar unwaith,” meddai’r pedwar ar y cyd.

“Mae’n bwysicach nawr, yn fwy nag erioed o’r blaen, fod y rhai sy’n cadw adar yn sicrhau eu bod nhw’n gwneud popeth o fewn eu gallu i gynnal a chryfhau bioddiogelwch da ar eu safle er mwyn sicrhau ein bod ni’n atal rhagor o ymlediadau.”

Camau posib

Yn ôl y Prif Filfeddygon, gall y rhai sy’n cadw adar ddilyn nifer o gamau er mwyn ceisio datrys y sefyllfa, gan gynnwys:

  • Cadw’r ardaloedd lle mae adar yn cael eu cadw yn lân ac yn daclus, rheoli llygod a llygod mawr a glanhau a diheintio pob arwyneb yn gyson
  • Glanhau esgidiau cyn ac ar ôl ymdrin ag adar
  • Gosod bwyd a diod adar mewn llefydd sydd i ffwrdd o adar gwyllt a symud unrhyw fwyd sy’n cael ei ollwng
  • Gosod ffens o amgylch ardaloedd lle mae adar yn cael eu cadw’n gaeth a chyfyngu ar eu mynediad i ardaloedd lle mae adar gwyllt
  • Osgoi cadw hwyaid a gwyddau yn yr un llefydd â dofednod eraill