Mae yna “arwyddion addawol” ar ôl y diwrnod cyntaf o gynnal profion coronafeirws torfol yn ninas Lerpwl, yn ôl Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus y ddinas.

Y nod yw cynnal profion ar 50,000 o bobol bob dydd unwaith fydd y cynllun wedi cael ei sefydlu yn ei gyfanrwydd.

Roedd chwe chanolfan ar agor ar y diwrnod cyntaf ddoe (dydd Gwener, Tachwedd 6), yn ôl Matt Ashton.

“Doedden ni ddim ar agor peth cyntaf, fe wnaethon ni agor amser cinio a chawson ni chwe chanolfan brofi heb symptomau ar agor,” meddai wrth raglen Today ar Radio 4.

“Rydyn ni’n dal i weithio ar y niferoedd ond rydyn ni’n credu bod yna ryw 1,500 i 2,000 o bobol ym mhob canolfan brofi, felly niferoedd da iawn a diddordeb da iawn, felly mae hynny’n galonogol iawn.”

Cyfnod clo

Ac mae’n dweud bod y cyfnod clo newydd yn angenrheidiol yn sgil methiant y cyfyngiadau Haen 3 a gafodd eu cyflwyno i leihau’r ymlediad.

“Bydd y cyfyngiadau hyn yn sicr yn helpu, byddan nhw’n lleihau lefelau’r haint yn ein cymuned oherwydd byddan nhw’n atal cyswllt cymdeithasol,” meddai.

“Y cwestiwn mawr yw a fyddan nhw’n eu torri nhw’n ddigonol, a fydd yn mynd â lefelau’r feirws yn ddigon isel?”