Mae timau achub yn chwilio am hyd at 100 o bobol a allai fod wedi cael eu claddu dan rwbel yn dilyn tirlithriad yn sgil corwynt Eta yn Guatemala.

Mae’r corwynt bellach ar ei ffordd i Giwba, a’r darogan yw y bydd yn troi’n storm drofannol yn ystod y dydd, gyda rhybuddion yn eu lle yn y Bahamas, de Florida a Florida Keys.

Mae disgwyl i’r corwynt gyrraedd ynysoedd y Cayman a Chiwba cyn diwedd y dydd a mynd am Florida yfory (dydd Sul, Tachwedd 8).

Mae dwsinau o bobol wedi cael eu lladd yn y tirlithriad yn Guatemala, ac mae disgwyl i’r ffigwr godi eto gyda thimau achub yn parhau i dynnu cyrff o’r rwbel.

Mae lle i gredu bod hyd at 150 o gartrefi wedi cael eu dinistrio’n llwyr.

Mae 19 o bobol hefyd wedi marw yn ne Mecsico, lle cafodd deg o bobol eu golchi i ffwrdd cyn i’w cyrff gael eu canfod yn ddiweddarach.

Mae’r awdurdodau yn yr Unol Daleithiau wedi hedfan yno i gynorthwyo’r timau achub.