Mae disgwyl i brif weinidog Prydain a llywydd Comisiwn Ewrop gynnal sgwrs ffôn heddiw (dydd Sadwrn, Tachwedd 7) i drafod y diffyg cynnydd hyd yn hyn.
Roedd gobaith yn dilyn eu trafodaethau fis diwethaf, ond nid ar ôl cyfarfod Cyngor Ewrop ar Hydref 15.
Yn ôl Thomas Byrne, mae “materion mawr” i’w trafod o hyd yn dilyn yr hyn mae e’n eu galw’n drafodaethau “anodd”.
“Dw i’n bersonol ddim yn disgwyl unrhyw gynnydd mawr heddiw ond ar yr un pryd, dw i’n credu ei bod hi’n dda iawn fod y ddau brif berson yn trafod – dw i’n credu bod hynny’n bositif, ond dw i ddim yn credu y byddem yn disgwyl ‘eiliad’ ar hyn o bryd,” meddai wrth raglen Today ar Radio 4.
“Ar hyn o bryd, mae ystod eang o faterion i’w trafod ar lefel dechnegol ac mae angen iddyn nhw barhau, dw i’n gobeithio.
“Gobeithio y bydd y drafodaeth heddiw rhwng Ursual von der Leyen a Boris Johnson yn datblygu ymhellach ar hynny.”