Mae Donald Trump yn dweud bod ras arlywyddol yr Unol Daleithiau “ymhell o fod drosodd”, er bod Joe Biden wedi cael ei ethol yn Arlywydd.
Mae’r arlywydd presennol wedi ailadrodd ei honiadau o dwyll etholiadol, gan ddweud y bydd yn bwrw ymlaen i ddwyn achos yn sgil y canlyniadau mae’n gwrthod eu derbyn.
Mae e hefyd wedi cyhuddo’r Democrat buddugol o “ruthro i ystumio fel yr enillydd” a’i gydweithwyr Democrataidd o “weithio’n galed i’w helpu”.
“Dydyn nhw ddim eisiau i’r gwirionedd gael ei ddatgelu,” meddai.
“Y ffaith syml yw fod yr etholiad hwn ymhell o fod drosodd.
“Dydy Joe Biden ddim wedi cael ei gyhoeddi’n enillydd unrhyw dalaith, heb sôn am yr un o’r taleithiau lle bu’r frwydr yn agos sy’n mynd am ail-gyfri, neu daleithiau lle mae gan ein hymgyrch heriau cyfreithiol dilys a chywir a allai benderfynu’r enillydd yn y pen draw.
“Yn Pennsylvania, er enghraifft, doedd ein harsylwyr cyfreithiol ddim wedi cael caniatâd i gael mynediad ystyrlon i wylio’r broses gyfri.
“Pleidleisiau cyfreithiol sy’n penderfynu pwy yw’r arlywydd, nid y cyfryngau newyddion.”
Her gyfreithiol
Mae Donald Trump wedi cyhoeddi y bydd yr her gyfreithiol yn erbyn y canlyniad terfynol yn dechrau ddydd Llun (Tachwedd 9).
“Gan ddechrau ddydd Llun, bydd ein hymgyrch yn dechrau erlyn ein hachos yn y llys er mwyn sicrhau bod cyfreithiau’r etholiad yn cael eu cynnal a bod yr enillydd teilwng yn cael ei orseddu,” meddai.
“Mae pobol America yn haeddu etholiad gonest: mae hynny’n golygu cyfri pob pleidlais gyfreithlon a pheidio â chyfri unrhyw bleidleisiau anghyfreithilon.
“Dyna’r unig ffordd o sicrhau bod gan y cyhoedd ymddiriedaeth lawn yn ein hetholiad.
“Mae’n dal yn destun siom fod ymgyrch Biden yn gwrthod cytuno â’r egwyddor sylfaenol yma a’u bod nhw eisiau cyfri pleidleisiau hyd yn oed os ydyn nhw’n dwyllodrus, wedi’u gwneuthuro neu eu bwrw gan bleidleiswyr annilys neu farw.
“Dim ond plaid sy’n rhan o ddrwgweithredu fyddai’n cadw arsylwyr allan o’r ystafell gyfri’n anghyfreithlon – a brwydro wedyn yn y llys i atal eu mynediad.
“Felly beth mae Biden yn ei guddio?
“Fydda i ddim yn gorffwys hyd nes bod pobol America wedi cael cyfri pleidleisiau’n onest fel maen nhw’n ei haeddu ac fel sy’n ofynnol yn ddemocrataidd.”