Mae Joe Biden wedi sicrhau’r 270 o bleidleisiau’r coleg etholiadol i ennill ras arlywyddol yr Unol Daleithiau.

Cafodd ei gyhoeddi’n enillydd ar ôl mynd ar y blaen yn y ras yn Pennsylvania.

Bellach mae wedi pasio’r trothwy o 270 o bleidleisiau yn y coleg etholiadol, sy’n golygu nad oes modd bellach i Donald Trump a’r Gweriniaethwyr ei ddal.

Mewn datganiad, dywedodd Mr Biden fod ennill yn “anrhydedd” a’i bod yn bryd i America “uno”.

Joe Biden, Arlywydd nesaf yr Unol Daleithiau

Bydd yn dod yn Arlywydd ym mis Ionawr, ar ôl cyfnod pontio sydd yn siŵr o fod yn gythryblus.

Mae ymgyrch Trump yn dweud “y ffaith syml yw bod yr etholiad hwn ymhell o fod drosodd” ac mae wedi lansio heriau cyfreithiol.

Yn 77 oed, Biden fydd yr Arlywydd hynaf yn hanes America. Ei bartner yn y ras, Kamala Harris, fydd y fenyw gyntaf a’r person o liw cyntaf i fod yn is-lywydd.

Dathliadau

Dathliadau ar Black Lives Matter Plaza yn Washington

Mae Maxine Hughes wedi ysgrifennu dyddiadur o noson yr etholiad i golwg360 a rhagolwg i Golwg+.

Ar ôl i’r canlyniad gael ei gyhoeddi, rhuthrodd lawr i Black Lives Matter Plaza i roi cipolwg o’r golygfeydd ar strydoedd Washington i ddarllenwyr golwg360

Darllen mwy